Bydd Caerdydd yn cael cyfnewidfa fysiau newydd eleni wedi oedi o saith mlynedd, meddai Trafnidiaeth Cymru.
Yn wreiddiol, roedd disgwyl iddo agor yn 2017, ond ar ôl rhwystrau, cafodd cynllun newydd ei gymeradwyo yn 2018, ac yna bu oedi ychwanegol oherwydd y pandemig.
Mae’r ddinas wedi bod heb orsaf fysiau swyddogol ers dymchwel yr hen un yn 2015, fel rhan o gynlluniau’r Sgwâr Canolog.
Dywedodd llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymri y bydd yr orsaf fysiau “yn agor yng ngwanwyn 2024”.
Rhwydwaith trafnidiaeth integredig
Bydd Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd yn gyfleuster bws canolog gyda 14 bae bysiau, gwahanol unedau manwerthu, toiledau cyhoeddus a phwyntiau bwyd a diod.
Dywed Trafnidiaeth Cymru ei fod am i’r gyfnewidfa bws a gorsaf reilffordd gyfagos Canol Caerdydd fod yn rhan o “rwydwaith trafnidiaeth integredig” fydd yn cynnig gwell cysylltiadau a mwy o opsiynau teithio.
“Bydd y gyfnewidfa yn hyrwyddo’r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus ac yn galluogi cysylltiadau di-dor i a rhwng gwahanol ddulliau trafnidiaeth, gan gynnwys rheilffyrdd, cerdded a beicio, yn y ddinas ac ar draws y rhanbarth,” meddai Trafnidiaeth Cymru.
‘Rhyfel ar fodurwyr’
Ym mis Gorffennaf, roedd Trafnidiaeth Cymru yn disgwyl i’r gwasanaethau cyntaf fod yn defnyddio’r gyfnewidfa erbyn diwedd 2023.
Ond gydag oedi pellach, mae disgwyl i’r safle agor yn llawn, yn hytrach na mewn camau, yn y gwanwyn.
Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, mae’r sefyllfa yn un “hurt”.
“Mae’n gwbl hurt bod prifddinas Cymru wedi bod heb orsaf fysiau swyddogol ers bron i naw mlynedd,” meddai Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig.
“Mae rhyfel Llywodraeth Lafur Cymru ar fodurwyr, o’u terfynau cyflymder 20m.y.a cyffredinol i’w rhewi ar adeiladau ffyrdd, wedi golygu bod angen i lawer ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, ond eto nid yw’r seilwaith mewn lle.
“Byddai’r Ceidwadwyr Cymreig yn hybu cysylltedd Cymru ac yn gwneud oedi Llafur yn rhywbeth sy’n perthyn i’r gorffennol.”