Mae athro a chyn-aelod o fand Bwncath wedi ymddangos gerbron ynadon yn Llys y Goron Caernarfon heddiw (dydd Mawrth, 2 Ionawr) ar gyhuddiad o gyfathrebu’n rhywiol gyda phlentyn.

Roedd Alun Jones Williams, 26, o Y Ffôr, ger Pwllheli, Gwynedd wedi gwadu cyhuddiad o gyfathrebu’n rhywiol gyda phlentyn o dan 16 oed rhwng 1 Ebrill a 20 Tachwedd 2023.

Cafodd Alun Jones Williams ei ryddhau ar fechnïaeth.

Fe fydd yr achos yn ei erbyn yn cael ei gynnal yn Llys y Goron Caernarfon ar 3 Gorffennaf.