Mae’r hwyliwr o Bwllheli, a gwblhaodd dwy fordaith o amgylch y byd, wedi marw yn 64 oed.
Bu’n gyn-Gomodor ac yn aelod ymroddedig o Glwb Hwylio Pwllheli am nifer o flynyddoedd.
Fe sefydlodd Goleg Morol newydd ym Mhwllheli hefyd, lle bu’n ddarlithydd am gyfnod.
Yn gyfranogwr brwd o Gymdeithas Rasio ar y Môr Iwerddon, derbyniodd Wobr Cyflawniad Oes gan Glwb Hwylio Pwllheli yn 2021.
Hanes
Ganwyd Richard Tudor ar 26 Gorffennaf 1959 a mynychodd Ysgol Glan y Môr ym Mhwllheli.
Roedd ei dad a’i frodyr wastad wedi bod yn forwyr brwd, ac roedd gan Richard dingi bach ei hun o oedran ifanc.
Bu hefyd yn ddigon ffodus i gael ymuno â’r clwb hwylio yn ei ysgol ym Mhwllheli, oedd yn cael ei redeg yn wirfoddol gan yr athro gwaith coed, Gwyndaf Hughes.
Cymerodd Richard Tudor ran mewn llawer o bencampwriaethau hwylio ledled Cymru.
Erbyn ei fod yn 17 oed, roedd Richard Tudor wedi cael digon o weithio i eraill ac roedd yn eithaf sicr beth roedd am ei wneud gyda’i fywyd.
Sefydlodd ei fusnes ei hun yn gwneud hwyliau a gorchuddion cychod, a hynny’n llwyddiannus am 15 mlynedd nes iddo benderfynu rhoi’r gorau iddi er mwyn hwylio o amgylch y byd.
Aeth yn ei flaen i fod yn gapten ar gwch hwylio o amgylch y byd ddwywaith yn rhan o Her Rownd Y Byd Dur Prydain – am y tro cyntaf yn 1992/3 ac eto yn 1996/7.
Ceisiodd eto yn 2000 gyda Thîm Philips ond bu’n anlwcus wrth i’w gwch ddechrau ddod yn ddarnau 700 milltir i orllewin Iwerddon ym Môr yr Iwerydd.
Roedd yn gefnogwr mawr o hwylio yn y gogledd orllewin dros y blynyddoedd a bu hefyd yn helpu i drefnu Regatta Cymru, a gynhelir bob dwy flynedd ym mis Awst, ym Mae Ceredigion.
‘Fe gafodd effaith mor anhygoel ar ein bywydau ni i gyd’
Mae sawl un wedi bod yn rhoi teyrnged iddo. Yn ôl comodor Clwb Hwylio Pwllheli, Mark H Thompson, fe gafodd Richard Tudor “effaith anhygoel” ar fywydau’r rhai a oedd yn ei nabod o’r clwb.
“Ar ran aelodau Clwb Hwylio Pwllheli rwyf wedi anfon ein cydymdeimlad dwysaf i Falmai a’r teulu Tudor wedi marwolaeth Richard.
“Fe gafodd Richard, sydd wedi hwylio o amgylch y byd, yn gyn-gomodor y clwb ac aelod gweithgar o’r pwyllgor, effaith mor anhygoel ar ein bywydau ni i gyd.
“Cwsg mewn hedd fy ffrind.”
‘Arwr’
Un arall sydd wedi rhannu ei atgofion yw’r bardd, Mei Mac.
“Newyddion dirdynnol,” meddai ar wefan X.
“Mi roedd Richard yn arwr i mi.
“Mae gen i gwch hwylio ym Mhwllheli a braint oedd cael ei gwmni am sgwrs a chyngor.
“Dyn tawel a gyflawnodd gymaint yn ei faes.
“Gŵr bonheddig ac yn ysbrydoliaeth nid yn unig i bobol ifanc ond i hwyliwrs o bob oed ac o bob man.”
Mae’r actor, digrifwr a hwyliwr o Bwllheli, Mici Plwm, hefyd wedi rhannu ei atgofion o ddilyn gyrfa Richard.
“Roedd yn arwr y byd hwylio, ac yn aelod selog iawn o Glwb Hwylio Pwllheli.
“Y dref a phlant ysgolion yr ardal yn dilyn ei hynt, yn hwylio yn y Ras o Gwmpas y Byd – dwywaith.
“Barod i hwylio i lawr Rhaeadr Niagara hefo Richard cymaint oedd fy mharch o’i ddawn.”
“Newyddion hynod drist bod Richard Tudor wedi marw,” meddai Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts.
“Seren y byd hwylio – mi wnaeth Richard gymaint i godi statws Pwllheli fel cyrchfan ryngwladol.
“Roedd yn fraint gweithio gydag o yn @meiriondwyfor.”
‘Ffigwr ysbrydoledig’
Dywedodd yr hwyliwr, William M Nixon: “Mae ei ffrindiau hwylio niferus ar ddwy ochr Môr Iwerddon wedi eu tristáu o glywed am farwolaeth Richard Tudor o Bwllheli, ffigwr ysbrydoledig yn y byd hwylio ac ar draws ystod eang o ddiddordebau mewn cychod,” meddai.
“Mae ein cydymdeimlad gyda’i deulu, ei ffrindiau hwylio niferus a’i gylch ehangach o ffrindiau.”