Mae rhybudd llifogydd ‘perygl i fywyd’ wedi ei gyhoeddi wrth i Storm Henk barhau.

Erbyn hyn, mae nifer o dai eisoes wedi eu heffeithio gan y llifogydd ac mae cannoedd heb drydan.

Mae criwiau tân yn delio â nifer o ddigwyddiadau yn ymwneud â llifogydd, gyda 34 o gartrefi wedi’u heffeithio yn Isgraig ym Mhorth Tywyn, Sir Gaerfyrddin.

Mae disgwyl gwyntoedd cryfion a glaw trwm dros lawer o’r de, gyda’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybuddion oren a melyn.

Gall ardaloedd arfordirol weld gwyntoedd o 70-80m.y.a., tra bod ardaloedd mewndirol yn disgwyl gwyntoedd o 50-60m.y.a..

Mae’r rhybudd oren wedi bod mewn lle ers 10yb hyd at 8yh heno (dydd Mawrth, 2 Ionawr) tra bod y rhybudd melyn am wynt mewn lle o 8yb nes 9yh.

Dim trydan

Ar hyn o bryd, mae dros 700 o dai heb drydan yn ne a gorllewin y wlad.

Yn ôl y Grid Cenedlaethol, mae 337 o’r cartrefi hyn yn Nyffryn Llynfi ym Mhen-y-Bont ar Ogwr, 145 yn Hendy yn Sir Gaerfyrddin, 62 ym Mynydd Cynffig ym Mhen-y-Bont ar Ogwr a 72 yn y Bont-faen ym Morgannwg.

Afon Rhydeg

Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fod y sefyllfa ger Afon Rhydeg yn Ninbych-y-pysgod, Sir Benfro, ger safle carafanau yn ddifrifol.

Dywed fod yr afon wedi bod yn codi’n gyson ers 8yb heddiw, ac mae disgwyl iddi gyrraedd ei phwynt uchaf am 1yb fory (dydd Mercher, 3 Ionawr).

“Dilynwch gyfarwyddiadau gan y gwasanaethau brys a’r staff yn y parc gwyliau,” meddai Cyfoeth Naturiol Cymru.

“Byddwch yn ymwybodol y gallai rhai ffyrdd yn yr ardal hon gael eu cau neu eu heffeithio gan ddŵr llifogydd.

“Cafwyd adroddiadau o garthffosiaeth amrwd yn y dŵr llifogydd ac felly dylid cymryd rhagofalon i osgoi cysylltiad â’r dŵr.”

Byddan nhw’n darparu diweddariad cyn gynted ag y bydd y sefyllfa yn newid.

Rhybuddion llifogydd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyhoeddi 17 rhybudd llifogydd.

Mae’r rhybuddion yn ymwneud ag:

  • Afon Ewenni ym Mhentre’r Wenni
  • Afon Dafen yn Nhrostre, Llanelli
  • Afon Cynin yn Sanclêr
  • Afon Llwchwr yn Rhydaman a Llandybie
  • Afon Hydfron yn Llanddowror
  • Ilston Brook yn Ilston, Gŵyr
  • Afon Dulais ar Gampws y Coleg a Heol Sandy, Pwll
  • Afon Tywi, eiddo ynysig rhwng Llandeilo ac Abergwili
  • Afon Gwendraeth Fawr ym Mhontiets a Phonthenry
  • Afon Rhydeg yn Ninbych-y-pysgod
  • Afon Elái yn Llanbedr-y-fro.