“Mae wedi bod yn ddechrau ofnadwy i’r flwyddyn ac mae pawb mewn sioc” – dyna’r ymateb i’r daeargryn nerthol a darodd Japan ar Ddydd Calan a’r ddamwain rhwng dwy awyren yn Tokyo yn gynharach heddiw (dydd Mawrth, 2 Ionawr).
Mae Noriko Vernon yn dod o Japan yn wreiddiol a bellach yn byw yn Llanefydd yn Sir Ddinbych ac wedi dysgu Cymraeg. Mae hi wedi bod yn siarad gyda’i theulu sy’n byw tuag awr o Tokyo am y ddau ddigwyddiad, sydd wedi bod yn ergyd drom i’r wlad ar ddechrau’r flwyddyn.
Bu farw o leiaf 48 o bobl yn y daeargryn pwerus a darodd ardal Noto yn Ishikawa ddydd Llun, 1 Ionawr gan ddifrodi cannoedd o gartrefi a ffyrdd. Roedd y daeargryn yn mesur 7.6 ar raddfa Richter ac mae tua 1,000 o weithwyr brys yn chwilio am bobl a allai fod yn gaeth o dan y rwbel.
Yn gynharach heddiw cafodd pump o bobl eu lladd ar ôl i ddwy awyren wrthdaro yn Tokyo.
Roedd y pump ar fwrdd awyren Gwylwyr y Glannau pan wrthdarodd gydag awyren deithwyr ym maes awyr Haneda yn Tokyo.
Roedd yr awyren Japan Airlines wedi mynd ar dân ar ôl y gwrthdrawiad ond fe lwyddodd y 379 o deithwyr ar fwrdd yr Airbus A350 i ddianc yn ddiogel.
Roedd disgwyl i awyren Gwylwyr y Glannau gludo cymorth brys i ardaloedd sydd wedi cael eu heffeithio gan y daeargryn. Fe lwyddodd peilot yr awyren i ddianc ond mae wedi cael anafiadau difrifol.
“Sioc”
“Does dim damwain awyren fel hyn wedi bod yn Japan ers amser hir, felly mae pawb mewn sioc,” meddai Noriko Vernon.
“Mae pobl yn Japan wedi arfer delio gyda daeargrynfeydd ond ar ôl y daeargryn/tswnami yn 2011, mae pawb yn poeni mwy am effeithiau daeargrynfeydd,” ychwanegodd.
“Yn Japan, rydan ni’n cael hyfforddiant yn yr ysgol am beth i wneud os oes daeargryn, fel bod pawb, mewn theori, yn gwybod beth i wneud a lle i gyfarfod mewn argyfwng. Mae llawer o’r adeiladau newydd wedi cael eu hadeiladu i wrthsefyll daeargrynfeydd hefyd. Ond efo tswnami, does dim llawer gallwch chi wneud.”
Mae Dydd Calan yn ddiwrnod pwysig yn Japan, eglura Noriko, lle mae teuluoedd yn dod at ei gilydd i ddathlu.
“Mae pawb yn ymgynnull ac yn dathlu efo’i gilydd felly byddai llawer o bobl wedi bod yn eu cartrefi pan ddigwyddodd y daeargryn,” meddai.
“Roedd pawb eisiau dathlu’r Flwyddyn Newydd ond mae hyn wedi bod yn newyddion ofnadwy. Mae pawb yn poeni am beth sy’n mynd i ddigwydd nesaf ar ôl y daeargryn, ac mewn sioc ar ôl y ddamwain awyren. Ond mae pobl Japan yn gryf iawn a ddim yn tueddu i banicio. Dw i’n teimlo’n ofnadwy dros bawb sydd wedi’u heffeithio,” meddai.
“Byw gyda’r ofn”
Mae Rhian Yamada, sy’n dod o Abertawe’n wreiddiol, wedi byw a gweithio yn Japan am nifer o flynyddoedd ac yno ar ymweliad ar hyn o bryd. Dywedodd bod y digwyddiadau dros y dyddiau diwethaf yn “frawychus”.
“Mae’r Flwyddyn Newydd yn adeg arbennig iawn pan mae teuluoedd yn ymgynnull ac yn dathlu, mae’n amser hynod o bwysig yma yn Japan felly roedd amseriad y daeargryn yn ofnadwy, un o’r dyddiau mwyaf pwysig ar ddechrau’r flwyddyn, pawb yn hapus ac, yn sydyn, bod rhywbeth mor ofnadwy yn digwydd.
“Mae wedi bwrw pawb ond ry’n ni’n teimlo mor, mor lwcus ein bod ni heb gael ein heffeithio yma. Mae’r bobl yn Japan yn gorfod cario mlaen gyda’u bywydau achos maen nhw’n byw gyda’r ofn yma drwy’r amser ond, oherwydd eu crefydd, maen nhw’n derbyn pethau – mae fy mam yng nghyfraith wastad yn dweud: ‘Beth bynnag a ddaw a ddaw’.
“Ond i glywed wedyn am y ddamwain ym maes awyr Haneda… trasiedi arall, un ar ôl y llall, mae’n frawychus. Dw i’n credu bod dathliadau pawb nawr lot tawelach na fyddan nhw fel arall.”
Mae ymchwiliad ar y gweill i ddarganfod beth achosodd y ddamwain awyren – y cyntaf o’i fath yn ymwneud ag awyren A350.