Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd adrannau argyfwng ac unedau mân anafiadau yn cael cyfran o £2.7m i wella amgylcheddau a gwella profiad y claf a’r staff.

Bydd y buddsoddiad yn cynnwys creu ardaloedd aros a chynyddu nifer y ciwbiclau asesu a thriniaeth, ychwanegu at gapasiti adrannau argyfwng ac unedau mân anafiadau drwy greu mwy o le.

Bydd y cyllid sy’n cael ei rannu yn cefnogi gwahanol gynigion sydd wedi’u cyflwyno gan bob bwrdd iechyd yng Nghymru ar gyfer amrywiaeth eang o faterion.

Gwella profiad y claf a staff

“Fe gawson ni adborth hynod gadarnhaol oddi wrth staff a chleifion yn dilyn ein buddsoddiadau a’n huwchraddiadau mewn adrannau argyfwng ac unedau mân anafiadau y llynedd,” meddai’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan.

“Rydyn ni’n bwriadu parhau i wneud hyn er mwyn helpu i wella gofal cleifion a staff.

“Dylai ein buddsoddiad o £2.7 miliwn wella profiad y claf a’r staff mewn ystafelloedd aros, ac wrth iddynt gyrchu neu ddarparu gofal a thriniaeth ar draws yr adrannau.

“Mae ein hadrannau argyfwng bob amser ar agor, ac yn barod i gefnogi’r rhai sydd â chyflyrau sy’n peryglu bywyd a chyflyrau sy’n gofyn am ymateb brys.

“Serch hynny, gall pob un ohonom chwarae ein rhan drwy helpu i leihau rhywfaint o’r pwysau sydd ar ein gwasanaethau argyfwng, drwy ystyried a oes gwir angen inni fynd i adran argyfwng, neu a fyddai opsiwn gwell a chyflymach, fel defnyddio uned mân anafiadau pwrpasol neu wasanaeth am ddim GIG 111 Cymru a gwasanaethau fferyllwyr cymunedol.”