Mae dros 60 o ymgyrchwyr o Gynghrair Heddwch Cymru wedi bod yn rhwystro’r ffordd tu allan i un o ffatrïoedd arfau rhyfel mwyaf y Deyrnas Unedig heddiw (Ionawr 3).

Yn ôl yr ymgyrchwyr, maen nhw’n gweithredu er mwyn tynnu sylw at ran BAE Systems PLC yng nghyrchoedd Israel yn erbyn Palesteina.

Bae Systems PLC yw’r contractwr milwrol mwyaf yn Ewrop, a seithfed cwmni arfau mwyaf y byd.

Maen nhw’n un o nifer o gwmnïau arfau yng ngwledydd Prydain sy’n cyflenwi ystod o arfau i Israel, gan gynnwys o’u ffatri yng Nglascoed yn Sir Fynwy.

Dyma’r eildro i’r Gynghrair weithredu, ar ôl iddyn nhw gau Elbit Systems, cwmni technoleg filwrol sydd â’i wreiddiau yn Israel, ym Mryste fis diwethaf.

Yn ôl y grŵp, bydd “gweithredu’n ddi-drais yn erbyn cyflenwyr sy’n cefnogi a chaniatáu gweithredoedd llywodraeth Israel yn parhau tra bo’r hil-laddiad yn erbyn Palesteiniaid yn parhau”.

“Fyddan ni ddim ynghlwm â throseddau rhyfel,” ychwanega’r grŵp.

‘Nid yn ein henwau ni’

Dywed llefarydd o Cardiff Stop the War, sy’n cefnogi’r digwyddiad heddiw, fod cymuned Caerdydd yno heddiw oherwydd eu bod nhw’n “gwybod na fydd y bobol sydd gan y pŵer i ddod â’r hil-laddiad hwn i ben yn gwneud hynny”.

“Fedrwn ni ddim dibynnu ar ein Haelodau Seneddol lleol etholedig nag ein prif weinidog anetholedig i weithredu.

“Mae’r Deyrnas Unedig yn cyfrannu at y troseddau rhyfel yn erbyn Palesteina.

“Rydyn ni wedi’n brawychu fod y Deyrnas Unedig yn caniatáu i wneuthurwyr arfau weithredu o’r wlad hon er gwaethaf wythnosau o ymgyrchoedd gan bobol yma yn mynnu fod y Deyrnas Unedig yn stopio cefnogi Israel.

“Rydyn ni’n dweud na i werthu arfau a chefnogi troseddau rhyfel erchyll, nid yn ein henwau ni.”

‘Annirnadwy’

Mae dros 22,000 o bobol wedi cael eu lladd yn Gaza ers i Israel ddechrau ymosod ar y llain wedi i grŵp milwrol Hamas ladd 1,200 o bobol a herwgipio 240 arall yn Israel ar Hydref 7 2023.

O’r rheiny, mae dros 8,000 ohonyn nhw’n blant.

Wrth siarad ar ran Families for a Ceasefire, dywed Roz Scourse, fod nifer y plant sydd wedi cael eu lladd yn Gaza nawr yn uwch na holl boblogaeth plant ysgol Sir Fynwy.

“Mae’n annirnadwy fod yr arfau sy’n cael eu gwneud yma ar ein stepen drws yn cael eu defnyddio i ladd ar y fath raddfa,” meddai.

“Mae Families for a Ceasefire yn cynrychioli llais teuluoedd yn Sir Fynwy sydd eisiau gweld diwedd ar y rhyfel hwn yn erbyn plant ac yn galw am gadoediad parhaol nawr.

“Rhaid i Gymru stopio arfogi hil-laddiad yn erbyn plant a theuluoedd.”