Bydd bwydydd a diodydd lleol yn cael eu defnyddio mewn prydau ysgol mewn chwe sir yng Nghymru.
Dros y deuddeng mis nesaf, bydd Wrecsam, Gwynedd, Sir y Fflint, Ynys Môn, Caerdydd a Chaerffili yn gweithio gyda rhaglen beilot Larder Cymru, Bwyd Cymreig i Ysgolion.
Y nod ydy cynyddu faint o fwydydd o Gymru sy’n cael eu prynu a’u defnyddio gan ysgolion y wlad.
Cynhaliwyd cyfnod prawf llwyddiannus yng Nghonwy, ac mae’r rhaglen yn cael ei rhedeg gan Fenter Môn gyda chefnogaeth gan Gronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol Llywodraeth Cymru.
“Mae Larder Cymru a’r chwe awdurdod lleol wedi ymrwymo i adolygu bwydlenni ysgolion ac adnabod cyfleoedd i ddefnyddio mwy o gynnyrch Cymreig yn eu prydau,” meddai David Wylie, Uwch Swyddog Prosiect y cynllun.
“Byddan ni’n cydweithio â chadwyni cyflenwi presennol a rhanddeiliaid er mwyn datblygu bwydlenni ysgolion ar gyfer y dyfodol sy’n cynnwys cynnyrch Cymreig a chyflenwyr Cymraeg gan gyd-fynd â pholisi prydau ysgol am ddim Cymru.
“Bydd pob awdurdod lleol yn gyfrifol am eu bwydlenni eu hunain ac yn cynnig y fframwaith; fel rhan o’r cynllun byddan ni’n archwilio ac adnabod y cyfleoedd a’r heriau sy’n codi wrth gynnig mwy o gynnyrch Cymreig mewn prydau ysgol.”
‘Helpu’r economi a’r amgylchedd’
Ynghyd ag edrych ar gynnyrch Cymreig, byddan nhw’n ystyried cynaliadwyedd, maeth, alergeddau a gofynion iechyd y prydau.
Ychwanega’r Cynghorydd Phil Wynn, aelod cabinet Cyngor Wrecsam dros Addysg, eu bod nhw wrth eu boddau’n gweithio ar y cynllun i weld sut fedran nhw wella ansawdd y bwyd sydd ar gael i blant mewn ysgolion.
“Bydd darparu’r prydau gorau posib yn eu helpu nhw i lwyddo i gyrraedd eu potensial, ac os fedrwn ni wneud hynny drwy gynnwys mwy o gynnyrch Cymreig yna bydd hynny’n helpu’r economi leol a’r amgylchedd hefyd.”