Mae rhybuddion i beidio â mynd i’r môr ar 19 o draethau Cymru yn sgil carthffosiaeth.

Daw’r rhybuddion gan yr elusen Surfers Against Sewage wedi i Storm Henk achosi llifogydd ledled y wlad.

Mae’r elusen, sy’n defnyddio map rhyngweithiol i dracio’r lefelau carthion mewn 450 o afonydd ac ardaloedd arfordirol, yn rhybuddio’r cyhoedd i osgoi nofio yn y môr yn yr ardaloedd hyn oherwydd bod carthion wedi eu gollwng yno’n ddiweddar.

Dywed pob un o’r 19 rhybudd gan yr elusen “carthion storm wedi’u gollwng o orlif carthffos yn y lleoliad hwn o fewn y 48 awr ddiwethaf”.

Pa ardaloedd sydd wedi’u heffeithio?

Mae’r mwyafrif o rybuddion am draethau Sir Benfro gyda deuddeg wedi’u heffeithio i gyd.

Mae’r rhain yn cynnwys Solfach, Traeth Niwgwl, Traeth Aberllydan, Barafundle, Maenorbyr, Lydstep, Penalun, De Dinbych-y-pysgod, Traeth y Castell Dinbych-y-pysgod, Gogledd Dinbych-y-pysgod, Llanustyll a Wiseman’s Bridge.

Yn ogystal, mae rhybuddion ar gyfer tri o draethau Ynys Môn sef Benllech, Rhosneigr ac Aberffraw.

Mae dau rybudd ar gyfer Gwyr sef Rhosili a Chanol Caswel, tra bod un ar gyfer Llanrhystud yng Ngheredigion ac un ar gyfer Llanilltud Fawr ym Mro Morgannwg.