Mae ymweliadau wedi cael eu hatal dros dro mewn ysbyty yn y de oherwydd nifer cynyddol o heintiau.
Bu’n rhaid cau saith ward yn Ysbyty Treforys yn Abertawe oherwydd achosion o Covid, Norofeirws, ffliw neu C.difficile.
Dim ond ymweliadau ar gyfer cleifion diwedd eu hoes neu ddyddiau olaf eu hoes sy’n cael eu caniatáu, ynghyd â gofalwr a pherthnasau sy’n darparu cymorth ymarferol i gleifion.
Mae’r ymweliadau arferol wedi cael eu gohirio o fore heddiw (Ionawr 3) hyd nes y clywir yn wahanol er mwyn ceisio atal heintiau rhag lledaenu ymhellach.
Gall rhieni ymweld â’u plant o hyd, ond mae gofyn i hynny gael ei gyfyngu i un rhiant ar y tro, medd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe mewn datganiad.
‘Osgoi Adrannau Brys’
Mae’r Bwrdd Iechyd hefyd yn gofyn i bobol beidio ymweld o gwbl os oes ganddyn nhw unrhyw symptomau salwch, gan gynnwys dolur rhydd a thaflu fyny, twymyn neu beswch.
“Rydym hefyd yn atgoffa pobol i osgoi dod i’r Adran Achosion Brys os oes ganddynt symptomau Norofirws – dolur rhydd a chwydu, crampiau yn y stumog neu gymalau poenus,” ychwanega’r Bwrdd Iechyd mewn datganiad.
“Mae’r byg bol hwn yn annymunol ond fel arfer mae’n diflannu ar ei ben ei hun ar ôl ychydig ddyddiau heb unrhyw niwed parhaol.
“Fodd bynnag, ar gyfer cleifion ysbyty bregus nad yw eu systemau imiwnedd mor gryf, gall Norofirws fod yn fwy difrifol, a gallech drosglwyddo’r firws i gleifion eraill ac i staff.”