Mae pryderon am ddyfodol y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn dilyn sylwadau gan gyfarwyddwr Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru, Helen Whyley, am y pwysau “gwbl annerbyniol” sy’n wynebu’r gwasanaeth.
Mewn ymateb, dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan, nad oes digon o arian i allu codi cyflogau nyrsys.
Yn ôl Cymdeithas Feddygol y BMA mae cyflogau meddygon iau wedi gostwng 29.6% ers tua 2008.
Bu i’r gymdeithas wrthod y cynnig o 5% o gynnydd i gyflogau gan y llywodraeth gan fod y ffigwr yn llai na chwyddiant ac yn is na’r hyn gafodd ei awgrymu.
Yn dilyn sylwadau Helen Whyley, mae Mabon ap Gwynfor, AS Plaid Cymru, wedi beirniadu’r Gweinidog Iechyd am ei “hagwedd ddiystyriol at bryderon dilys y Coleg Nyrsio Brenhinol.”
“Dylai’r flwyddyn newydd gyhoeddi newid agwedd a deialog barchus rhwng y Gweinidog Iechyd a’r rhai sy’n cynrychioli ein staff gwerthfawr yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol,” meddai.
“Os ydym am weld y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn gweithredu’n iawn ar gyfer pobl Cymru yna dylid dangos i’r gweithlu’r parch y maent yn ei haeddu gyda gwell cyflog ac amodau gwaith.”
‘Methu fforddio streicio’
Mae hefyd pryderon sut bydd y gwasanaeth yn ymdopi gyda’r streiciau sydd ar y gweill ar gyfer mis Ionawr.
Un sy’n pryderu yw llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George.
“Ni all Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru a chleifion Cymru fforddio rownd arall o streiciau,” meddai.
“Mae Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig wedi cyflwyno cynnig mwy hael i feddygon iau yn Lloegr nag sydd gan Lafur yng Nghymru.
“Dylai Llafur gael gwared ar eu prosiectau drud a thalu meddygon yn iawn yn lle hynny.”
Daw ei sylwadau wedi i bennaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, Judith Paget, ddweud bydd “aflonyddwch sylweddol” pan fydd meddygon iau yn streicio yn ddiweddarach yn y mis.
Bydd y streiciau yn cychwyn ar Ionawr 15 ac yn parhau hyd at Ionawr 18, gan olygu bydd hyd at 3,000 o ddoctoriaid yn gadael eu gweithle yn ystod y cyfnod.
Dywedodd Judith Paget y bydd yn “anodd iawn i ni redeg gwasanaethau fel arfer” yn ystod y cyfnod.
Er mwyn ceisio ymdopi gyda’r streiciau, bydd mwy o bwyslais ar ryddhau cleifion a mwy o ddibyniaeth ar ofal yn y cartref.
Bydd gwasanaethau sydd ddim yn argyfwng yn cael eu gohirio dros y cyfnod.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn “siomedig bod meddygon wedi pleidleisio dros weithredu diwydiannol” ond eu bod “yn deall cryfder eu teimladau am y cynnig cyflog o 5%.”
“Er ein bod yn dymuno mynd i’r afael â’u huchelgeisiau adfer cyflogau, mae ein cynnig ar gyfyngiadau’r cyllid sydd ar gael i ni ac mae’n adlewyrchu’r sefyllfa y daethpwyd iddo gyda’r undebau iechyd eraill ar gyfer eleni,” meddai.
“Heb gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, nid ydym mewn sefyllfa i gynnig mwy ar hyn o bryd.
“Byddwn yn parhau i’w pwyso i drosglwyddo’r cyllid angenrheidiol ar gyfer codiadau cyflog llawn a theg i weithwyr y sector cyhoeddus.
“Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol gyda Chymdeithas Feddygol Prydain a Chyflogwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a byddwn yn sicrhau ar y cyd bod diogelwch cleifion yn cael ei ddiogelu yn ystod gweithredu diwydiannol.”