Mae Prif Swyddog Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Huw Jakeway, wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol wedi adolygiad annibynnol damniol o ddiwylliant y gwasanaeth.

Cafodd yr adolygiad allanol ei gynnal i Wasanaeth Tân De Cymru yn dilyn honiadau o aflonyddu rhywiol a cham-drin merched gan ddiffoddwyr tân.

Fel rhan o’r adolygiad cafodd 450 o aelodau o staff a 60 o gyn-aelodau’r gwasanaeth eu holi.

Cafodd yr adolygiad ei gomisiynu gan Huw Jakeway ei hun wedi adolygiad tebyg i Wasanaeth Tân Llundain.

Yn ôl yr adolygiad, roedd nifer o “ddiffygion difrifol” gan gynnwys bwlio a chyffuriau ynghyd a diffyg amrywiaeth a thryloywder wrth recriwtio o fewn y gwasanaeth.

Yn ogystal, mae beirniadaeth bod y gwasanaeth wedi caniatáu aflonyddu rhywiol a sylwadau negyddol am dras, rhyw a chrefydd.

Roedd hyn yn cynnwys “sylwadau amhriodol” am y ffordd roedd menywod yn edrych ac yn gwisgo a lluniau amhriodol yn cael eu hanfon at fenywod y gwasanaeth.

Daeth yr adolygiad i’r casgliad bod y strwythur o fewn y gwasanaeth yn “caniatáu i bobl ddefnyddio eu safle i reoli a/neu fwlio eraill” a bod ymddygiad amhriodol “o’r brig i lawr.”

‘Diwylliant mwy cadarnhaol a chynhwysol’

Fe fydd yr adroddiad damniol i ddiwylliant Gwasanaeth Tân De Cymru yn “peri pryder i drigolion ar draws y de”,  yn ôl Aelod o’r Senedd.

“Mae pobl yn ne Cymru yn haeddu gwasanaeth tân gyda diwylliant iach, fel y mae hefyd staff y gwasanaeth tân,” meddai Joel James.

“Mae bellach yn ddyletswydd ar y Prif Swyddog Tân nesaf i ddangos y bydd y diwylliant yn newid fel y gallant adennill hyder staff a phreswylwyr fel ei gilydd.”

‘Amser am newid mewn arweinyddiaeth’

Mae Huw Jakeway eisoes wedi ymddiheuro am ganfyddiadau’r adroddiad.

“I’r rhai sydd wedi cael profiadau negyddol o’r Gwasanaeth, mae’n ddrwg iawn gennyf. Nid oes lle i ymddygiad amhriodol o fewn Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru,” meddai.

Aeth yn ei flaen i ddweud ei fod yn derbyn yr argymhellion a bod nawr yn amser am newid mewn arweinyddiaeth a’i fod felly wedi hysbysu’r awdurdod o’i fwriad i ymddeol.

“Ni fydd y broses benodi ar gyfer y Prif Swyddog Tân nesaf yn amharu ar, nac yn oedi’r gwaith i fynd i’r afael â’r argymhellion,” meddai.

“Bydd y Prif Swyddog Tân nesaf yn cael cyfle i osod eu gweledigaeth ar gyfer y Gwasanaeth a chynllun hirdymor i fynd i’r afael ag argymhellion a chanfyddiadau’r Adolygiad Diwylliant Annibynnol.

“Rwy’n hyderus trwy ymrwymiad ar y cyd ar draws y Gwasanaeth a gyda chymorth gan bartneriaid, y bydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn dod i’r amlwg gyda diwylliant mwy cadarnhaol a chynhwysol.”