Mae nifer o arteffactau o’r drydedd-ganrif-ar-ddeg hyd y cyfnod modern wedi cael eu canfod yn sgil gwaith archeolegol mewn abaty yn Sir Fynwy.
Bydd y gwaith cadwraeth yn Abaty Tyndyrn yn cael sylw ar raglen Digging for Britain ar BBC 2 heno (dydd Iau, Ionawr 4).
Mae’r abaty’n sefyll ar lannau Afon Gwy ers dros 700 mlynedd, a dros y canrifoedd mae’r tywydd wedi erydu’r gwaith cerrig canoloesol.
Dros gyfnod o bum mlynedd, bydd y corff sy’n gwarchod adeiladau hanesyddol, Cadw, yn gwneud gwaith cadwraeth i ddiogelu’r abaty.
Dechreuodd ymchwiliadau archeolegol ar y safle dros yr haf, ac maen nhw eisoes wedi dod o hyd i wydr ffenestri canoloesol prin, teils llawr a chrochenwaith, a darnau arian o gyfnod Harri III (1215 i 1272), Siôr III (1760 i 1820), hyd at y cyfnodau Fictoraidd ac Edwardaidd.
‘Dysgu cymaint mwy’
Mae tîm Digging for Britain wedi bod ar y safle yn dilyn y gwaith cloddio, gafodd ei wneud er mwyn llywio’r gwaith cadwraeth, a bydd rhai o’r darganfyddiadau’n cael eu trafod ar y rhaglen heno.
“Ers dros 700 mlynedd mae eglwys yr abaty wedi bod yn croesawu addolwyr, noddwyr cyfoethog ac ymwelwyr i’r lleoliad heddychlon hwn, ac unwaith eto mae angen ychydig o sylw arno,” meddai Gwilym Hughes, Pennaeth Cadw.
“Mae’r hyn sydd wedi’i ddarganfod hyd yma wedi dysgu cymaint mwy i ni am Abaty Tyndyrn ac wedi gwella ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth ohono, ei hanes, ei adeiladau a’i archaeoleg.
“Rwy’n falch iawn y bydd gwylwyr Digging for Britain yn cael y cyfle i gael cipolwg ar y gwaith sy’n cael ei wneud.”
‘Straeon ingol’
Mae arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd wedi bod yn astudio’r darganfyddiadau, gan gynnwys olion rhai o gyn-feddianwyr yr abaty, ac o bosib y noddwyr.
“Dim ond ychydig o gladdedigaethau o’r Abaty yr ydym wedi’u dadansoddi hyd yn hyn, ond mae’r rhain eisoes yn rhoi cipolwg newydd heb ei ail ar fywydau preswylwyr yr Oesoedd Canol ac Ôl-ganoloesol yn yr ardal,” meddai Richard Madgwick o Brifysgol Caerdydd.
“Mae’r rhain yn cynnwys straeon ingol, gan gynnwys yr hyn sy’n ymddangos yn berson anabl a fu’n derbyn gofal mawr a osodwyd i orffwys mewn bedd a dorrwyd ar frys ychydig wrth ymyl yr Abaty ar ôl y diwygiad, gan ddangos ei bod yn dal i fod ag arwyddocâd arbennig i rai yn lleol, hyd yn oed pan nad oedd yr Abaty yn cael ei ddefnyddio.
“Rydym bellach yn cychwyn ar raglen uchelgeisiol o ddadansoddi moleciwlaidd i adeiladu bywgraffiadau manylach, gan gynnwys asesiadau o ddeiet, iechyd a tharddiadau.”
‘Claddedigaethau Catholig cyfrinachol’
Bydd angen sgaffaldiau uchel a thrwm ar gyfer y gwaith cadwraeth a fydd yn mynd rhagddo yn ddiweddarach eleni.
Cyn gosod y sgaffaldiau, comisiynwyd Archaeoleg Mynydd Du ac ArchaeoDomus i gynnal gwerthusiadau archeolegol, er mwyn osgoi unrhyw nodweddion hynafol bregus sydd wedi’u claddu yn y ddaear.
“Mae’r gwaith cloddio eisoes wedi bod o gymorth i wella ein dealltwriaeth o waith adeiladu a datblygiad yr Eglwys Abadol yn y byd canoloesol cyn ac ar ôl y Diwygiad,” ychwanega Ross Cook, perchennog ac Archeolegydd Adeiladau a Dendrocronolegydd yn ArchaeoDomus.
“Hyd yn hyn, mae gennym ddarganfyddiadau sydd wedi helpu i wella ein dealltwriaeth o ddatblygiad yr Abaty rhwng yr eglwys gyntaf a’r ail eglwys.
“Yn benodol, mae nifer ac amrywiaeth y teils llawr canoloesol, gwydr lliw, a darnau bach o blastr wedi’u paentio, wedi dechrau creu darlun o sut roedd yr eglwys ddiweddarach yn edrych ar un adeg.
“Mae claddedigaethau Eglwysi Abadol cynnar a diweddarach wedi cael eu dadorchuddio, sydd wedi datgelu claddedigaethau syml yn y dull Sistersaidd hyd at gladdedigaethau statws uchel yr elît seciwlar.
“Yn bwysig, darganfuwyd nifer o gladdedigaethau ôl-Ddiddymiad hefyd, sy’n awgrymu bod claddedigaethau Catholig cyfrinachol wedi parhau ar ôl Diwygiad Protestannaidd Harri’r VIII.”
‘Braint enfawr’
Dywed Alice Roberts, cyflwynydd Digging for Britain, ei bod hi’n “fraint enfawr” ymweld â Thyndyrn yn ystod y gwaith archeolegol.
“Roeddwn wrth fy modd yn gweld rhai o’r teils llawr addurnedig gwreiddiol, a oedd wedi’u claddu o dan rwbel dymchwel cyfnodau diweddarach.”