Mae deiseb sy’n galw am dynnu CBE cyn-Brif Weithredwr Swyddfa’r Post yn ôl wedi denu dros 100,000 o lofnodion erbyn hyn.
Mae’r ddrama Mr Bates vs The Post Office am yr helynt arweiniodd at garcharu cannoedd o is-bostfeistri o bob cwr o’r Deyrnas Unedig, gan gynnwys Noel Thomas o Gaerwen ar Ynys Môn, wedi’i darlledu ar ITV yr wythnos hon.
Ond mae bellach yn cael ei ystyried yn un o’r achosion gwaethaf erioed o gamweinyddu cyfiawnder, ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod nam ar system dechnoleg Horizon gan Fujitsu oedd yn cael ei defnyddio ar gyfer cyfrifon ariannol.
Yn dilyn darlledu’r gyfres, mae Noel Thomas wedi rhoi ei sêl bendith iddi.
Ond mae eraill wedi ei beirniadu hefyd am hepgor un o’r ffigurau amlycaf, sef Adam Crozier, cyn-Brif Weithredwr y Post Brenhinol aeth yn ei flaen i weithio i ITV.
Y ddeiseb
Yn ôl y ddeiseb ar wefan 38 degrees, mae Swyddfa’r Post yn euog o gelu’r gwirionedd ynghylch y sefyllfa arweiniodd at erlyn a charcharu cannoedd o is-bostfeistri, a’u gwneud nhw’n fethdal.
Yn yr achosion gwaethaf, bu i rai ohonyn nhw gymryd eu bywydau eu hunain yn sgil y cyhuddiadau.
Yn dilyn ymchwiliad cychwynnol yn 2012, dywedodd Swyddfa’r Post nad oedden nhw wedi canfod unrhyw broblemau â’u technoleg, a chafodd y cwmni Second Sight eu penodi i gynnal ymchwiliad annibynnol.
Fe ddaeth i’r amlwg fod Swyddfa’r Post wedi celu dogfennau oedd yn dangos nam ar y system dechnoleg, ac fe wrthododd Paula Vennells ateb cwestiynau pwyllgor seneddol ynghylch pam fod dogfennau heb eu rhoi i’r pwyllgor.
Roedd y dogfennau hynny’n dangos nad oedd system Horizon “yn addas at y diben”, wrth iddyn nhw ddangos 12,000 o fethiannau bob blwyddyn, a nam mewn 76 o leoliadau gwahanol.
Daeth yr ymchwiliad i’r casgliad fod Swyddfa’r Post wedi beio is-bostfeistri yn hytrach na chynnal ymchwiliad trylwyr, ond fe wnaethon nhw wfftio’r honiadau.
Ceisiodd Swyddfa’r Post ddirwyn ymchwiliad Second Sight i ben pan ddechreuodd yr honiadau weld golau dydd, fe wnaethon nhw ddifetha gwaith papur perthnasol a cheisio diddymu’r pwyllgor annibynnol gafodd ei sefydlu.
Yn y pen draw, cafodd 550 o is-bostfeistri gyfran o iawndal gwerth £58m.
Yr awgrym yn y pen draw gan un o’r Arglwyddi fu’n helpu’r is-bostfeistri oedd y dylid diswyddo bwrdd ac uwch-reolwyr Swyddfa’r Post a “dechrau o’r dechrau” gyda chymorth Second Sight.
Ar ôl derbyn CBE, symudodd Paula Vennells i nifer o swyddi blaenllaw eraill, gan gynnwys yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac Eglwys Loegr.
“Maes o law, mae Paula Vennells wedi gwrthod ateb cwestiynau gan y staff yn ogystal â’r cyfryngau, ac wedi gwrthod ymddiheuro am y twyll, diflastod a thrawma sydd wedi’i achosi, sydd wedi dwyn anfri arni hi, Swyddfa’r Post, y system anrhydeddau a’r llywodraeth,” meddai’r ddeiseb.
Effaith ar Ynys Môn
“Mae drama newydd ITV yn uwcholeuo’r blynyddoedd maith o anghyfiawnder mae is-bostfeistri fel Noel Thomas wedi’u profi,” meddai Rhun ap Iorwerth, yr Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn ac arweinydd Plaid Cymru.
“Mae’r effaith gafodd y sgandal yma ar ein cymunedau yn aruthrol, a’r effaith ar yr unigolion dieuog yma’n anfesuradwy.”
Is-bostfeistri a gafodd eu cyhuddo ar gam yn galw am garcharu’r rhai oedd yn gyfrifol
Gwrandawiad cynta’r ymchwiliad cyhoeddus i’r sgandal is-bostfeistri
Gwyrdroi euogfarnau deuddeg o isbostfeistri eraill
Cyn-gynghorydd i gael ei anrhydeddu yn dilyn “camweinyddiad cyfiawnder ofnadwy”
Llys Apêl wedi gwyrdroi euogfarnau cyn-bostfeistri