Mae’r Llys Apêl wedi gwyrdroi euogfarnau deuddeg cyn-isbostfeistr arall – gan gynnwys dyn o Sir Benfro, a gafodd eu cyhuddo ar gam o droseddau yn ystod sgandal Swyddfa’r Post Horizon.
Erbyn hyn, mae 57 o bobol wedi clirio eu henwau, ond mae cannoedd o isbostfeistri eraill yn gobeithio y bydd eu heuogfarnau nhw’n cael eu gwyrdroi hefyd.
Rhwng 2000 a 2014, cafodd 736 o gyn-reolwyr eu herlyn yn sgil problem gyda system gyfrifiadurol Horizon, oedd yn cael ei defnyddio gan Swyddfa’r Post.
Ymhlith y deuddeg a gafodd glirio eu henwau heddiw roedd Tim Brentnall, o bentre’r Garn yn Sir Benfro, a gafodd ei erlyn yn 2010 ar ôl i £22,000 ddiflannu o Swyddfa’r Post yno.
Er ei fod e’n gwybod nad oedd e wedi dwyn arian, cymerodd ei rieni fenthyciad er mwyn talu’r arian yn ôl i Swyddfa’r Post, ond cafodd ei erlyn am ffugio cyfrifon yn fuan wedyn.
Fel nifer o isbostfeistri eraill, cafodd ei annog i bledio’n euog, a chafodd ddedfryd o ddeunaw mis yn y carchar wedi’i ohirio, a 200 awr o wasanaeth cymunedol.
Apeliadau
Cafodd rhai o’r isbostfeistri eu carcharu ar gam ar ôl cael eu cyhuddo o ddwyn arian gan Swyddfa’r Post, gan gynnwys Noel Thomas o Ynys Môn, a dreuliodd naw mis yn y carchar.
Fe gafodd cyhuddiadau Noel Thomas a 38 arall eu gwyrdroi ym mis Ebrill eleni, wedi i’r un fath ddigwydd i chwech arall ym mis Rhagfyr.
Mewn gwrandawiad ym mis Mawrth, clywodd y llys fod bywydau’r isbostfeistri wedi’u “difetha yn anadferadwy” gyda rhai yn colli eu swyddi a’u cartrefi, a phriodasau’n chwalu.
Cafodd mwy o bobol eu heffeithio gan yr achos hwn nag unrhyw achos arall o gamweinyddiad cyfiawnder yn y Deyrnas Unedig.
Diwrnod “arwyddocaol”
Wrth siarad ar ôl yr achos, dywedodd Neil Hudgell ar ran y cyfreithwyr oedd yn cynrychioli’r isbostfeistri fod heddiw’n ddiwrnod “arwyddocaol” arall i grŵp o bobol a wnaeth ddioddef.
“Wnaethon nhw ddim byd o’i le, fe gawson nhw eu bwlio i gyfaddef i droseddau na wnaethon nhw eu cyflawni, gorfod talu symiau mawr o arian na wnaethon nhw ei gymryd, a gweld eu bywydau’n cael eu difetha’n anadferadwy o ganlyniad,” meddai.
“Mae’r grŵp yma o bobol eto’n cynnwys pobol a dreuliodd amser yn y carchar. Yn anffodus, ni ellir dadwneud yr hyn ddigwyddodd i bob unigolyn a’u teuluoedd.
“Mae hynny’n ei gwneud hi’n bwysicach fyth fod y llysoedd a Swyddfa’r Post yn cydnabod hyn.”
‘Wir yn sori’
“Mae Swyddfa’r Post wir yn sori am fethiannau yn y gorffennol ac rydyn ni’n croesawu penderfyniad y Llys heddiw i wyrdroi’r cyhuddiadau heb oedi yn yr apeliadau y gwnaethom ni eu cefnogi,” meddai llefarydd.
“Rydyn ni’n gwneud ymdrechion diwyd i gydnabod camweinyddion cyfiawnder hanesyddol yn deg, gan gynnwys adolygiad helaeth o erlyniadau ers 1999 er mwyn adnabod ac amlygu’r holl ddeunydd a allai effeithio sicrwydd cyhuddiadau.
“Rydyn ni hefyd yn trawsnewid ein mudiad er mwyn atal y fath ddigwyddiadau rhag digwydd byth eto ac ailosod ein perthynas gyda phostfeistri.”