Mae pedwar o bobol o Gymru wedi’u henwebu ar gyfer Gwobr y Loteri Genedlaethol eleni.

Mae Berwyn Rowlands, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Gwobr Iris Gŵyl Ffilm LGBT+; Katherine Hughes, Ysgrifennydd Canolfan Glowyr Caerffili ar gyfer y Gymuned; Tirion Thomas, hyfforddwraig rygbi 20 oed o’r Bala; a Bethan Littlewood, enillydd medal aur tîm polo canŵio Prydain wedi’u cynnwys ar y rhestr fer.

Mae Gwobrau’r Loteri Genedlaethol yn ymgyrch flynyddol i ganfod hoff bobol a phrosiectau’r Deyrnas Unedig sy’n cael eu hariannu gan y Loteri Genedlaethol.

Bwriad y gwobrau yw dathlu unigolion a grwpiau ysbrydoledig sy’n gwneud pethau anhygoel yn eu cymunedau.

Eleni, cafodd 1,500 o bobol eu henwebu ar gyfer Gwobr y Loteri Genedlaethol am y gwaith maen nhw’n ei gyflawni gyda help arian y Loteri Genedlaethol.

Fis nesaf, bydd panel yn penderfynu ar yr enillwyr ymhob categori o’r rhestr fer – gyda’r categorïau’n cynnwys Chwaraeon, Cymunedol ac Elusennol, Diwylliant, Celfyddydau a Ffilm, a Threftadaeth.

Berwyn Rowlands

Mae Berwyn Rowlands, sy’n Gynhyrchydd Teledu a Ffilmiau, yn wreiddiol o Ynys Môn ond yn byw yng Nghaerdydd, yn un o bump ar y rhestr fer yn y categori Celfyddydau.

Trefnodd ei ŵyl ffilmiau gyhoeddus gyntaf yn Aberystwyth yn 1989.

Sylfaenodd Wobr Iris, sy’n cael ei hariannu gan y Loteri Genedlaethol, yn 2006, ac erbyn hyn mae’r wobr flynyddol wedi datblygu i fod y wobr ffilm fer LGBT+ ryngwladol fwyaf yn y byd.

“Mae’n anrhydedd llwyr i fod ar y rhestr fer ar gyfer rownd derfynol y gwobrau,” meddai.

“Hoffwn ddiolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am fy nghefnogi i a Gwobr Iris, gan ein helpu ni i gynnal gŵyl unigryw sy’n cyflwyno ffilmiau o’r gymuned amrywiol hon at sylw cynulleidfaoedd ehangach o amgylch y byd.”

Katherine Hughes

Katherine Hughes o Gaerffili, sy’n 71 mlwydd oed ac yn wirfoddolwr ac Ysgrifennydd Canolfan Glowyr Caerffili ar gyfer y Gymuned, sy’n cynrychioli Cymru yn y categori Cymunedol.

Cafodd ei henwebu am ei hymdrechion diflino’n gwirfoddoli dros y blynyddoedd, ac am ei gwaith tu cefn i ymgyrch i achub y ganolfan.

Roedd hi’n aelod blaenllaw o’r grŵp cymunedol a helpodd i achub yr hen ysbyty rhag cael ei ddymchwel 15 mlynedd yn ôl, ac ers agor yn 2008, mae’r Ganolfan wedi dod yn lleoliad bywiog i’r gymuned gwrdd.

“Doedd dim geiriau gennyf pan gefais wybod am fy enwebiad,” meddai Katherine Hughes, sy’n parhau i wirfoddoli yn y Ganolfan.

“Mae’r Loteri Genedlaethol wedi chwarae rôl allweddol wrth sefydlu a chynnal y prosiect hwn ac mae’n wych cael bod yn rhan o brosiect mor ysbrydoledig a bywiog, lle mae aelodau’r gymuned a gwirfoddolwyr o bob anian yn dod ynghyd i gefnogi ein hachos cyffredin.”

Tirion Thomas

Mae Tirion Thomas wedi’i henwebu yn y categori Chwaraeon am ei rôl yn datblygu rygbi i fenywod yn ardal y Bala, a dechreuodd drwy sefydlu tîm rygbi i ferched pan oedd hi yn Ysgol y Berwyn.

Erbyn hyn, mae hi’n hyfforddi tri grŵp gwahanol yng Nghlwb Rygbi’r Bala, ac yn ffigwr allweddol yn gyrru’r Rhaglen Llysgenhadon Ifanc yng Nghymru.

Mae hi’n astudio Bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Abertawe ar hyn o bryd.

“Mae’r Bala yn dref fechan ac nid oedd llawer o gyfleoedd chwaraeon i blant iau, yn enwedig merched,” eglura.

“Roeddwn eisiau’r rhoi’r cyfleoedd iddynt wneud y chwaraeon roeddent yn ei garu nad oedd ar gael yn y lle cyntaf i mi pan yr oeddwn yn tyfu i fyny.

“Rwyf wedi gallu gwneud hynny gyda chefnogaeth y Loteri Genedlaethol.

“Rwyf yn gyffrous tu hwnt i gael fy ystyried fel ymgeisydd yn y rownd derfynol – yn enwedig pan ydych yn gweld faint o brosiectau sydd wedi cystadlu!”

Bethan Littlewood

Mae Bethan Littlewood hefyd wedi’i henwebu yn y categori Chwaraeon am yr effaith gadarnhaol mae hi’n ei chael ar bobol o’i hamgylch trwy ei hagwedd o allu cyflawni unrhyw beth, ei natur gofalgar a’i phwyslais ar gynhwysiant.

Yn Gadeirydd Clwb Canŵnio Pen-y-bont ar Ogwr, mae hi wedi bod yn ysbrydoliaeth i aelodau ifanc y clwb, a phadlwyr ar draws Cymru a’r gymuned chwaraeon.

Wrth hyfforddi ar gyfer Pencampwriaethau’r Byd, ac yn gwirfoddoli yng ngemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 cafodd ddiagnosis am ganser yr ofari yn 15 oed.

Wedi dwy flynedd o gemotherapi a llawdriniaeth fawr, dychwelodd ar gyfer Pencampwriaethau’r Byd 2014 gan arwain tîm Prydain at y fedal aur ym Mhencampwriaethau Polo Canŵio Ewropeaidd 2019.

“Mae’n fraint gwirioneddol wych i gael fy nghydnabod fel ymgeisydd yn rownd derfynol y categori Chwaraeon yng Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol,” meddai.

“Mae ffitrwydd wedi achub fy mywyd; rwyf eisiau helpu eraill i gael eu cyfle gorau mewn bywyd trwy rannu’r rhyfeddodau sydd gan ffitrwydd i’w cynnig.”

‘Gweithio’n ddiflino’

“Ers 1994, mae’r Loteri Genedlaethol wedi cael effaith bositif aruthrol ar fywyd ledled y Deyrnas Unedig,” meddai Jonathan Tuchner o’r Loteri Genedlaethol.

“Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol a’r £36m a godir bob wythnos ar gyfer achosion da, mae miloedd o sefydliadau yn cael effaith ac yn gwneud gwahaniaeth anferthol yn eu hardaloedd lleol.

“Mae Gwobrau’r Loteri Genedlaethol yn anrhydeddu’r sawl sydd wedi camu i fyny a dod i’r amlwg megis Berwyn, Katherine, Tirion a Bethan, gan weithio’n ddiflino ar gyfer eu cymuned.

“Maent yn haeddu clod enfawr a’n diolch am eu gwaith anhygoel.”