Mae dyn o Wrecsam a gafwyd yn euog o lofruddio cydnabod busnes wedi’i garcharu am 18 mlynedd.

Cafwyd Barry John Bagnall, 42, yn euog o lofruddio Terrence Edwards ac o weithredu gyda’r bwriad o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Cafwyd hyd i gorff Terrence Edwards yn ei gartref ym Mharc Caia ar Fehefin 1 y llynedd.

Yn ôl y Ditectif Arolygydd Chris Bell o Heddlu’r Gogledd, cafodd ei ladd “mewn gwaed oer” ar ôl cael ei daro ddwywaith yn ei ben.

“Bu hwn yn ymchwiliad hir ac arbennig o heriol,” meddai.

“Hoffwn ddiolch i’r cyhoedd a’r tystion wnaeth roi tystiolaeth yn y llys.

“Gobeithio y bydd y ddedfryd heddiw yn cynnig cysur a rhyw fath o ddiweddglo i deulu a ffrindiau agos Terry.”