Mae arbenigwyr wedi argymell brechu rhai plant dan ddeunaw oed er mwyn eu hamddiffyn rhag Covid-19 cyn y gaeaf, yn ôl Gweinidog Brechlynnau’r Deyrnas Unedig.
Wrth siarad â BBC Breakfast, dywedodd Nadhim Zahawi AS fod argymhelliad y Cyd-bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) yn cynnwys brechu plant sydd bron yn ddeunaw, plant sy’n agored i niwed gan Covid-19, a phlant sy’n byw gyda phobol sy’n glinigol agored i niwed.
Yn ddiweddarach, yn unol â’r cyngor, cyhoeddodd Ysgrifennydd Iechyd Lloegr, Sajid Javid AS, y bydd plant sydd mewn mwy o berygl o Covid-19 yn cael cynnig y brechlyn Pfizer/BioNTech “cyn gynted â phosibl” yn Lloegr, fel y mae’r rhai sy’n byw gyda phobl sydd â systemau imiwnedd gwan.
Brechlyn Pfizer/BioNTech yw’r unig frechlyn sydd wedi’i awdurdodi ar gyfer plant 12 oed neu’n hŷn yn y Deyrnas Unedig.
Canfu treial clinigol yn yr Unol Daleithiau gyda thua 1,000 o blant rhwng 12 a 15 oed, pe bai pobl ifanc yn dioddef unrhyw sgil-effeithiau o’r pigiad, mai dim ond byrhoedlog ac ysgafn oeddent.
Dywedodd Sajid Javid ei fod wedi derbyn cyngor y JCVI – a bod y Cydbwyllgor wedi diystyru brechu plant iach ar raddfa fawr am y tro.
Hefyd, bu’n rhaid i Nadhim Zahawi ymddiheuro i Lefarydd Tŷ’r Cyffredin am gyfeirio at y cyhoeddiad ar y teledu cyn dweud wrth ASau.
“Dylai Llywodraeth Cymru ddilyn cyngor y JCVI”
Wrth ymateb i’r newyddion, mae llefarydd Plaid Cymru ar blant a phobl ifanc, Siân Gwenllian AoS, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddilyn cyngor y JCVI hefyd.
“Dylai Llywodraeth Cymru ddilyn cyngor y JCVI,” meddai Siân Gwenllïan AoS.
“Mae’n iawn bod camau’n cael eu cymryd i leihau’r tebygolrwydd y bydd y feirws yn cylchdroi’n gyflym ymhlith ein pobl ifanc: maent eisoes wedi dioddef niwed dwfn o effeithiau unigedd ac amharu ar ddysgu.
“Ni allwn ganiatáu i’r feirws ledaenu’n rhydd, yn enwedig gyda thystiolaeth sy’n dod i’r amlwg am effaith Covid Hir ar y grŵp oedran hwn.
“Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r Gweinidog Iechyd roi sicrwydd bod y penderfyniadau ynghylch brechu plant yn cael eu hadolygu’n gyson, yn enwedig wrth i fwy o ddata rhyngwladol ddod ar gael.
“Yn y cyfamser, mae mesurau amddiffynnol eraill y gellir ac y dylid eu cymryd, megis sicrhau awyru digonol ym mhob lleoliad addysgol.”