Mae Sioe Frenhinol Cymru’n dechrau’n rhithwir heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 19) a thros y pedwar diwrnod nesaf, bydd pob adran o’r sioe yn cynnig profiadau’n ddigidol.
Bydd y sioe rithwir yn cynnig llwyfan i bartneriaid gynnal seminarau a sesiynau holi ac ateb byw, yn ogystal â chanolbwyntio ar addysgu’r cyhoedd ynglŷn ag amaethyddiaeth.
Fe fydd pwyslais hefyd ar addysgu pobol am gynnyrch Cymreig a’r amgylchedd, a bydd cyfle i arddangos nifer o unigolion sy’n arbenigwyr yn eu maes i annog eraill i ymroi i sgil newydd neu arfer technegau newydd.
“Uchafbwynt” y calendr
Ymysg y digwyddiadau eleni, mae Undeb Amaethwyr Cymru’n cynnal amrywiaeth o weminarau yn trafod yr argyfwng tai gwledig, newid yn yr hinsawdd, iechyd meddwl a dyfodol cysylltedd digidol Cymru.
Yn ogystal, mae Undeb Amaethwyr Cymru am lansio teclyn lobïo trwy eu gwefan a fydd yn caniatáu i aelodau a’r cyhoedd ysgrifennu at eu cynrychiolwyr etholedig i dynnu sylw at bryderon ynghylch y Cytundeb Fasnach Rydd ag Awstralia.
“Fel llawer o rai eraill, roeddem wedi gobeithio gallu bod ar faes y sioe yn bersonol eleni,” meddai Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, cyn y digwyddiad.
“Mae Sioe Frenhinol Cymru yn parhau i fod yn uchafbwynt ein calendr ffermio, ac er na allwn gwrdd wyneb yn wyneb, rydym yn gyffrous i drafod rhai o’r materion mwyaf allweddol sy’n wynebu ein diwydiant yn rhithwir unwaith eto.
“Rwy’n gobeithio y bydd llawer ohonoch chi’n gallu ymuno â ni ar gyfer y digwyddiadau hyn.”
“Calon y Gymru wledig”
Yn y cyfamser, mae Ysgrifennydd Materion Gwledig Llywodraeth Cymru wedi diolch i bawb yn y diwydiant amaethyddol am eu gwydnwch a’u hymroddiad yn ystod Covid-19.
Pwysleisia Lesley Griffiths hefyd fod creu Cymru gryfach, werddach, thecach wrth wraidd yr hyn mae Llywodraeth Cymru am ei gyflawni.
“Ffermio ac amaethyddiaeth yw calon y Gymru wledig o hyd, ac rydym yn falch o gefnogi Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru eleni,” meddai.
“Mae’n drist iawn, wrth gwrs, na fyddwn yn cwrdd wyneb yn wyneb yn y sioe eto eleni, ond rhaid i iechyd y cyhoedd ddod yn gyntaf.
“Rwy’n hynod falch o’r ymrwymiad sydd gan bawb yn y diwydiant ac wedi sicrhau bod pobol Cymru wedi parhau i gael y dewis gorau posibl o gynnyrch o Gymru.
“Mae’n amlwg bod pobol wedi gwerthfawrogi pwysigrwydd gallu cael gafael ar gynnyrch lleol yn ystod y pandemig.
“Diolch am bopeth rydych chi wedi’i wneud ac yn parhau i’w wneud.
“Wrth i ni wella o effaith Covid-19, mae gennym gyfle gwirioneddol i sicrhau Cymru well fyth nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
“Bydd ein system newydd o gymorth i ffermydd yn hanfodol i’r ymdrech hon a bydd yn manteisio i’r eithaf ar bŵer amddiffyn natur drwy ffermio.
“Er mwyn paratoi ar gyfer trosglwyddo i’r cymorth i ffermydd newydd hwn rwyf wedi symleiddio’r Cynllun Taliadau Sylfaenol presennol er mwyn rhoi sicrwydd a thegwch taliadau ymlaen llaw i ffermwyr fydd yn cyrraedd ym mis Hydref eleni.
“Rwy’n gobeithio y bydd y newid hwn yn rhoi rhywfaint o sefydlogrwydd mewn cyfnod cythryblus.”