Mae Cefin Campbell, llefarydd amaethyddiaeth a materion gwledig Plaid Cymru yn y Senedd, wedi beirniadu Bargen Fasnach Awstralia fel un sydd yn “amgylcheddol anllythrennog” ac yn “frad difrifol o ffermwyr Cymru”.
Yn y Sunday Times, dywedodd fod “risg gwirioneddol” y bydd y mewnlifiad o gig eidion a chig oen rhatach o Awstralia’n tanseilio cynnyrch domestig.
Dywedodd ymhellach fod y fargen yn gwneud “fawr o synnwyr economaidd”, a’i bod yn “amgylcheddol anllythrennog”.
Fe dynnodd e sylw at y ffaith fod llawer o gig eidion sydd wedi ei fewnforio i Gymru yn dod o Iwerddon, tra bydd e nawr yn dod o ben draw’r byd.
Mae’n galw am frand swyddogol “Gwnaed yng Nghymru” i helpu i hyrwyddo defnydd Cymru o nwyddau a gwasanaethau sydd wedi’u cynhyrchu yng Nghymru.
Daw’r alwad ar drothwy’r Sioe Amaethyddol.
Cyfnod sy’n ‘debycach i aeaf caled’
“Gyda’r haf arnom ni, byddai cymunedau gwledig ar draws y wlad fel arfer yn paratoi ar gyfer wythnosau o sioeau a ffeiriau, ond mae digwyddiadau’r misoedd a’r blynyddoedd diwethaf wedi gadael y cyfnod hwn yn teimlo’n debycach i aeaf caled,” meddai Cefin Campbell.
“Mae’n amlwg bod y ffordd wledig o fyw a’r rhai sy’n ennill bywoliaeth o’r tir yn wynebu bygythiadau o bob cyfeiriad – gan gynnwys o’r pandemig, Brexit, newid hinsawdd neu’r ansicrwydd a achosir gan Fil Amaethyddiaeth Llywodraeth Lafur Cymru sydd ar fin digwydd.
“Rwy’n credu’n gryf bod gan sector amaethyddol Cymru botensial enfawr.
“Gan gynhyrchu bwyd a diod ymysg yr ansawdd uchaf yn y byd, mae Plaid Cymru wedi bod yn eiriolwr ers tro byd dros gymell busnesau i ddod o hyd iddynt yn lleol, gan gwtogi’r gadwyn gyflenwi a chreu swyddi drwy roi hwb i lefelau caffael.
“Dyna pam rwy’n galw am frand swyddogol ‘Gwnaed yng Nghymru’ i helpu Pobl Cymru i adnabod y cynnyrch sydd wedi’i wneud yma.
“Yn hytrach na chaniatáu cytundebau Torïaidd sy’n amlwg yn cyflenwi cynnyrch rhad o ansawdd isel i’n siopau a’n harchfarchnadoedd, gallwn werthu ein bwyd a’n diod gorau i’r byd er budd ein ffermwyr, yn hytrach na ar draul ein ffermwyr.”