Mae pryderon y gallai “diwrnod rhyddid” Lloegr droi’n “ddiwrnod anhrefn” wrth i fwy o gyfyngiadau Covid-19 gael eu llacio yno heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 19).

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig dan bwysau i fynd i’r afael â’r sefyllfa a allai gweld prinder gweithwyr mewn sawl maes pe baen nhw’n derbyn neges gan ap olrhain cysylltiadau’r Gwasanaeth Iechyd yn gofyn iddyn nhw hunanynysu.

Ymhlith y pryderon mae’r ffaith y gallai’r system drafnidiaeth gael ei harafu gan brinder gweithwyr, ac y gall fod prinder bwyd a nwyddau mewn archfarchnadoedd pe bai prinder gyrwyr i’w cludo nhw yno.

Mae’r CBI yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i roi’r hawl ar unwaith i bobol sydd wedi cael dau ddos o frechlyn Covid-19 i beidio â hunanynysu, yn hytrach nag aros tan Awst 16 i gyflwyno’r rheol honno.

Yn ôl undeb RMT, mae’r system drafnidiaeth “ar y dibyn” wrth wynebu’r posibilrwydd y gallai nifer fawr o weithwyr dderbyn neges gan yr ap.

Ac mae’r TUC yn rhybuddio na all y Llywodraeth “wylio o’r ymylon wrth i Covid-19 redeg yn wyllt”, ac maen nhw’n galw am wneud gwisgo mygydau’n orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn siopau, a diweddaru eu canllawiau ar gyfer dychwelyd i’r gweithle “fel bod gweithwyr yn hyderus bod eu gweithleoedd yn ddiogel”.

‘Cyfathrebu gwael a negeseuon cymysg’

Yn ôl Dr Roger Barker, cyfarwyddwr polisi Sefydliad y Cyfarwyddwyr, mae ailagor yr economi’n cael ei “llesteirio gan gyfathrebu gwael a negeseuon cymysg”.

“Mae’r canllawiau diweddaraf ar gyfer busnesau’n nodi’n glir fod rhaid i fusnesau, yn ôl y gyfraith, beidio â rhoi’r hawl i weithiwr sy’n hunanynysu ddod i’r gwaith ond ar yr un pryd, mae gweinidogion yn briffio’r cyfryngau fod yr ap ond yn gyngor,” meddai.

Mae Unsain yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i “fynd i’r afael” â’r sefyllfa.

“Gyda heintiau a derbyniadau i’r ysbyty ar gynnydd, dydy cefnu ar y cyfyngiadau sy’n weddill ddim yn argoeli’n dda,” meddai’r ysgrifennydd cyffredinol Christina McAnea.

Mae’n dweud nad yw’n “rhy hwyr i rwyfo’n ôl” ar y penderfyniad, ac mae hithau’n galw am ailgyflwyno mygydau gorfodol, cadw pellter cymdeithasol a chodiad cyflog i weithwyr iechyd.

Cau archfarchnadoedd ‘yn ddigynsail’

Yn ôl Richard Walker, rheolwr gyfarwyddwr archfarchnad Iceland, mae’r cwmni’n wynebu sefyllfa “ddigynsail” wrth orfod cau siopau o ganlyniad i absenoldeb staff.

“Nid oherwydd Covid-19, ond oherwydd ap Olrhain sydd wedi torri ac sy’n tarfu,” meddai.

“Roedd absenoldebau staff i fyny 50% yr wythnos ddiwethaf, ac mae’r duedd yn siarp ac yn gyflym, ac nid yw ond yn effeithio ein cydweithwyr ein hunain ond y rheiny ledled y gadwyn gyflenwi a’r rhwydweithiau logisteg.

“Mae angen ailwampio’r rheolau ynghylch yr ap Olrhain ar frys, ac yn ddelfrydol i newid i fodel ‘Profi a Rhyddhau’ a fyddai’n rhyddhad mawr i gyflogwyr, gweithwyr a chwsmeriaid ac yn cefnogi’r ymdrechion ehangach i gryfhau’r economi.”