Mae ymchwiliad gan gonsortiwm byd-eang wedi dod i’r casgliad bod meddalwedd o Israel yn cael ei ddefnyddio i sbïo ar newyddiadurwyr, ymgyrchwyr hawliau dynol a gwrthryfelwyr gwleidyddol.
Yn ôl y consortiwm o 17 o sefydliadau newyddion, maen nhw wedi dod o hyd i dystiolaeth bod 1,000 o unigolion mewn 50 o wledydd, gan gynnwys 200 o newyddiadurwyr, wedi cael eu targedu.
Cafodd y rhestr o rifau ffôn ei chaffael gan y sefydliad Ffrengig Forbidden Stories ac Amnest Rhyngwladol.
Mae NSO Group, cwmni o Israel, yn gwadu mai nhw sy’n gyfrifol am y sefyllfa, gan ddweud bod yr adroddiadau’n “llawn casgliadau anghywir a theorïau heb sail”.
Ar y rhestr mae 189 o newyddiadurwyr, mwy na 600 o wleidyddion a swyddogion llywodraeth, o leiaf 65 o benaethiaid busnes, 85 o ymgyrchwyr hawliau dynol a sawl pennaeth gwleidyddol, yn ôl y Washington Post.
Mae’r newyddiadurwyr yn gweithio i’r Associated Press, Reuters, CNN, y Wall Street Journal, Le Monde a’r Financial Times.
Ac mae lle i gredu bod y meddalwedd dan sylw wedi’i osod ar ffôn Hatice Cengiz, dyweddi’r newyddiadurwr Jamal Khashoggi, ddiwrnodau’n unig cyn iddo gael ei lofruddio yn Istanbul yn 2018.
Ond mae NSO Group yn gwadu eu bod nhw’n cadw rhestrau o enwau, ac eithrio enwau’r rhai sydd wedi’u hamau o frawychiaeth a throseddwyr eraill – a hynny er gwaetha’r dystiolaeth sy’n awgrymu i’r gwrthwyneb.
Maen nhw’n dweud nad ydyn nhw’n datgelu pwy yw eu cleientiaid, ond eu bod nhw’n gwerthu technoleg i lywodraethau â sêl bendith Israel i’w helpu nhw i dargedu brawychwyr ac i ddileu cylchoedd pedoffiliaid a’r rhai sy’n droseddwyr rhyw ac yn allforio cyffuriau.
Maen nhw’n honni bod eu meddalwedd wedi achub miloedd o fywydau, ac yn gwadu bod ganddyn nhw ran ym marwolaeth Jamal Khashoggi.
Ond yn ôl Amnest Rhyngwladol, mae hacwyr yn “ceisio bygwth y cyfryngau hanfodol” ac yn “rheoli’r naratif cyhoeddus, yn osgoi craffu ac yn tawelu unrhyw leisiau sy’n wrthwynebus”.