Mae pryderon y gallai gwahaniaethau sylweddol yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru a Lloegr arwain at “rywfaint o wrthdaro” wrth i bobol groesi’r ffin rhwng y ddwy wlad dros yr haf.
O heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 19) yn Lloegr, fydd dim rhaid i bobol wisgo mygydau neu orchuddion wyneb mewn siopau nac ar drafnidiaeth gyhoeddus gyda’r rheol yn cael ei disodli gan gyngor i wisgo mwgwd mewn llefydd cyfyng a phrysur.
Mae hyn yn cynnwys unrhyw fusnesau sydd heb eu hagor tan nawr, er enghraifft clybiau nos a bydd uchafswm nifer y bobol sy’n cael bod mewn llefydd hefyd yn cael ei ddileu.
Ond yng Nghymru, fydd dim llacio pellach am o leiaf dair wythnos arall, wrth i bobol barhau i wisgo mygydau mewn llefydd dan do oni bai eu bod nhw wedi’u heithrio am resymau meddygol.
Mae hyn yn cynnwys archfarchnadoedd a lletygarwch, ac eithrio pan fydd pobol yn eistedd mewn tafarn neu fwyty, yn ogystal â thrafnidiaeth gyhoeddus a thacsis ac mae disgwyl i unrhyw un sy’n teithio ar drên i Gymru wisgo mwgwd ar ôl croesi’r ffin.
Gallai llacio pellach ddigwydd yng Nghymru ar Awst pe bai’r sefyllfa iechyd cyhoeddus yn gwneud hynny’n bosib.
Bryd hynny, gallai’r rheol ar wisgo mygydau gael ei dileu yma hefyd.
Diffyg eglurder
Ond am y tro, mae pryderon ynghylch diffyg gwybodaeth am y rheolau gwahanol yng Nghymru a Lloegr, gyda’r mwyafrif o dwristiaid yng Nghymru ar hyn o bryd yn cyrraedd o Loegr heb fod yn ymwybodol o’r rheolau gwahanol o bosib.
Yn San Steffan yr wythnos ddiwethaf, galwodd Hywel Williams, Aelod Seneddol Arfon, ar Boris Johnson, prif weinidog Prydain, i’w gwneud hi’n glir fod rhaid i unrhyw un sy’n dod i Gymru “gadw at gyfreithiau Cymru” ac i egluro hefyd mai dim ond am Loegr y gall e sôn gan fod y mater wedi’i ddatganoli yng Nghymru.
“Dw i’n credu y dylai pobol gadw at y rheolau a’r canllawiau lle bynnag maen nhw, ac mae’r gwir anrhydeddus ŵr bonheddig yn llygad ei le wrth siarad am ddull gofalus a phwyllog,” meddai, wrth osgoi egluro bod yna wahaniaeth.
Canmol Llywodraeth Cymru
Wrth siarad â’r Gwasanaeth Gohebu ar Ddemocratiaeth Leol, mae deilydd y portffolio datblygiad economaidd a thwristiaeth ar Gyngor Môn wedi canmol Llywodraeth Cymru am eu hymdriniaeth o’r cyfyngiadau hyd yn hyn.
“Mae dull Mark Drakeford o ymdrin â’r pandemig wedi bod yn fwy gofalus ac wedi canolbwyntio’n llwyr ar warchod pobol Cymru ac mae’r Prif Weinidog wedi ein gwasanaethu ni’n dda,” meddai’r Cynghorydd Carwyn Jones o Blaid Cymru.
“Mae Boris Johnson wedi bod yn fwy ‘ffwrdd-â-hi’ efo’i ddull o, ac yn gollwng mesurau iechyd cyhoeddus Covid o ddydd Llun yn Lloegr.
“Bydd y gwahaniaeth hwn yn nulliau ac ymateb Lloegr a Chymru o bosib yn creu peth gwrthdaro mewn rhai sefyllfaoedd efo gwyliau’r haf ar y gorwel a’r rheolau gwahanol ar waith.
“Roeddwn i’n ymwybodol yn ystod y cyfnod clo cyntaf fod rhai pobol oedd yn ymweld ag Ynys Môn o Loegr wir wedi drysu efo’r rheolau gan eu bod nhw ond yn cael y diweddariadau ar deledu rhwydwaith Saesneg yr oedd Boris Johnson yn eu cyfleu, ac mae o’n gwneud hynny mewn modd lle gallech chi’n hawdd iawn gamddeall yr hyn mae’n ei ddweud fel rhywbeth sy’n berthnasol i’r Deyrnas Unedig gyfan.
“Byddwn i’n annog pawb sy’n ymweld ag Ynys Môn i ddod yma ac i fwynhau, ond i wneud hynny ar yr amod eich bod yn cadw at y rheolau sydd yn eu lle yma yng Nghymru, yn parchu’r busnesau a’r mesurau sydd ganddyn nhw yn eu lle, a pharchu ein cymunedau lleol a’n hamgylchedd annwyl.”
Arwyddion yn eu lle
Yn y cyfamser, mae llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd yn dweud bod arwyddion yn eu lle ger y ffin ac o fewn y sir yn atgoffa pobol o’r rheolau yng Nghymru.
“Drwy gydol y pandemig, rydyn ni wedi bod yn annog y rheiny sy’n dewis ymweld â Gwynedd i fod yn amyneddgar, i gynllunio ymweliadau ymlaen llaw ac i barchu ein cymunedau drwy ddilyn rheolau Covid-19 Cymru’n llawn,” meddai.
“Rydym yn cydweithio’n agos â’n partneriaid yn Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Croeso Cymru, awdurdodau lleol, yr heddlu a sefydliadau allweddol eraill i sicrhau bod ymwelwyr yn ymwybodol o’r rheoliadau Cymreig diweddaraf.
“Fel rhan o hyn, mae arwyddion yn eu lle wrth i bobol gyrraedd Cymru yn eu hatgoffa nhw o’r angen i gadw at reoliadau Covid-19 Cymru.
“Mae gennym ni arwyddion hefyd yn nhrefi a lleoliadau poblogaidd Gwynedd yn atgoffa trigolion ac ymwelwyr o bwysigrwydd cadw at y rheolau er mwyn atal ymlediad y feirws.
“Rydym yn hyrwyddo rheoliadau diweddaraf Llywodraeth Cymru ar ein holl sianeli ac yn atgoffa’r rheiny sy’n ymweld â Chymru o’r angen i barhau i wisgo mygydau wyneb a chadw pellter.
“Mae gwybodaeth hefyd yn cael ei rhoi i fusnesau Gwynedd drwy fwletinau rheolaidd sy’n cynnwys posteri ac asedau y gellir eu harddangos i dynnu sylw at reoliadau Covid-19 Cymru, ac mae ein tîm twristiaeth a marchnata’n defnyddio’u holl adnoddau gan gynnwys gwefannau mynyddoedd ac arfordir Eryri i sicrhau bod ymwelwyr o’r tu allan i Gymru’n gwbl ymwybodol o’r sefyllfa ddiweddaraf.
“Mae swyddogion ymgysylltu cymunedol Covid-19 y Cyngor yn parhau i ymweld â chymunedau ledled y sir i gynghori trigolion a busnesau a byddan nhw’n atgoffa aelodau’r cyhoedd o’r rheoliadau diweddaraf, gan gynnwys yr angen i wisgo gorchuddion wyneb a chadw pellter mewn llefydd cyhoeddus dan do.
“Ein blaenoriaeth yw cadw pobol Gwynedd a phobol sy’n ymweld â’r sir yn ddiogel.
“Ond mae gennym oll ran i’w chwarae yn hynny ac i atal ymlediad yr haint.”