Mae’n debygol bod y cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan yr haf diwethaf wedi achosi cynnydd mewn marwolaethau oedd yn gysylltiedig â Covid-19 ymysg pobol sydd o dras Bacistanaidd a Bangladeshaidd, yn ôl un gwyddonydd biofeddygol.
Dywed yr Athro Parvez Haris o Brifysgol De Montford yng Nghaerlŷr fod y syniad wedi creu “amgylchedd delfrydol” i gymunedau â’r ganran uchaf o bobol yn gweithio yn y sector lletygarwch fod yn agored i ddal y feirws.
Mae e hefyd wedi mynegi pryder y gallai codi’r cyfyngiadau yn Lloegr heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 19) olygu fod y grwpiau ethnig hyn yn cael eu taro eto, oni bai bod rhagor o fesurau ar waith i warchod busnesau bach.
Rhybuddia’r Athro Parvez Haris y gallai dathliadau Eid yr wythnos nesaf fod yn ddigwyddiad lle bydd lledaenu helaeth (super spreader).
Fel rhan o gynllun Bwyta Allan i Helpu Allan Llywodraeth y Deyrnas Unedig, roedd cwsmeriaid yn cael gostyngiad o 50%, hyd at £10, oddi ar eu prydau a diodydd ar ddyddiau Llun, Mawrth a Mercher drwy gydol mis Awst y llynedd, a hynny er mwyn helpu’r economi.
‘Amgylchedd delfrydol’
“Fe wnaeth y cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan droi yn gyfle i fusnesau a staff wneud arian roedden nhw ei angen a chynnig mwynhad i gannoedd ar filoedd o gwsmeriaid, ond fe greodd amgylchedd delfrydol i fod yn agored i Covid-19, a chymunedau o bobol o dras Bacistanaidd a Bangladeshaidd wnaeth ddioddef waethaf,” meddai’r Athro Haris.
Mae ystadegau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod y gyfradd farwolaethau ymysg pobol o gefndiroedd ethnig Bangladeshaidd a Phacistanaidd yn Lloegr yn uwch yn ystod yr ail don na’r don gyntaf.
Er hynny, roedd risg cymharol grwpiau ethnig eraill o gymharu â Phrydeinwyr gwyn yn llai yn ystod yr ail don.
Ystadegau
Ar gyfer dynion o dras Bangladeshaidd, cododd y gyfradd farwolaeth 3.0 yn uwch nag ar gyfer dynion Prydeinig gwyn yn ystod y don gyntaf i 5.0 yn ystod yr ail. Ar gyfer menywod Bangladeshaidd, cododd y gyfradd o 1.9 i 4.1 o gymharu â menywod Prydeinig gwyn.
Er bod pobol o grwpiau ethnig Affricanaidd a Charibïaidd wedi parhau mewn risg uwch na phobol wyn yn ystod yr ail don, roedd y gwahaniaeth yn llai o gymharu â’r don gyntaf.
Dywed yr Athro Haris fod 30% o gymunedau Bangladeshaidd a Phacistanaidd yn gweithio mewn busnesau bach megis bwytai neu fwyd brys, lle gall awyru fod yn “wael iawn”.
“Dydyn nhw heb gael eu cynllunio i fynd i’r afael â diferion dŵr sy’n cynnwys y feirws yn dod o gegau pobol eraill, y llefydd bach hyn, mae’r ceginau yn gul a chyfyng.
“Dw i wedi gweld pobol yn gweithio mewn ceginau yma yng Nghaerlŷr – chwech, saith, wyth o bobol yn gweithio mewn cegin fach iawn.
“Mae pobol bron yn disgyn dros ei gilydd pan mae hi’n brysur… dydyn nhw ddim yn ymbellhau’n iawn… maen nhw’n trio ymdopi â llif anferth o gwsmeriaid.”
Dywed hefyd nad yw pobol oedd yn gweithio mewn llefydd poeth yn gwisgo mygydau’n gywir, ac y gallai gweithwyr fod yn dychwelyd adref i dai aml-genhedlaeth gan ganiatáu i’r feirws “dreiddio” drwy’r gymuned.
‘Achub bywydau’
Mae’r Athro Haris yn tynnu sylw at gyflyrau iechyd isorweddol, gan ddweud mai ymysg y boblogaeth Bangladeshaidd mae’r “cyfraddau uchaf o glefyd siwgr yn y Deyrnas Unedig”.
Bydd yn cyflwyno canfyddiadau’r gwaith ymchwil yng Ngŵyl Ryngwladol Iechyd Cyhoeddus ym Manceinion ddydd Iau (22 Gorffennaf), a bydd yn nodi mai poblogaethau Bangladeshaidd a Phacistanaidd y Deyrnas Unedig sydd â’r ganran uchaf o bobol yn gweithio yn y sector trafnidiaeth a chyfathrebu hefyd.
“Mae Covid-19 yn afiechyd galwedigaethol, daeth hynny’n amlwg yn y Deyrnas Unedig drwy’r cyfraddau marwolaeth gwahanol ymysg grwpiau ethnig yn yr ail don, gyda chynnydd dramatig mewn gweithwyr oedd yn gweithio yn y sector lletygarwch yn ystod y cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan,” meddai.
“Yn y bôn, dyw e ddim yn ymwneud â hil, ethnigrwydd na dosbarth, ond mae e’n ymwneud ag achub bywydau a dylai data gael ei ddefnyddio i adnabod pwy sydd mewn risg, a pham, a sut gellir newid pethau er gwell.”