Mae dyn wedi bod gerbron llys, wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio dynes feichiog yn Aberfan fis diwethaf.

Cafodd Andrea Pintili, sy’n 29 oed, ei thrywanu ger ei chartref ar Ragfyr 5.

Mae Daniel Mihai Popescu wedi’i gyhuddo hefyd o fygwth tyst ac o stelcian.

Aeth Popescu gerbron y llys drwy gyfieithydd i gadarnhau ei enw a’i ddyddiad geni, ond wnaeth e ddim cyflwyno ple wrth i’r llys aros am adroddiadau seiciatryddol.

Mae disgwyl iddo fe sefyll ei brawf yn Llys y Goron Merthyr Tudful ar Fehefin 3, ac mae wedi’i gadw yn y ddalfa yn y cyfamser.