Mae’r Pwyllgor Deisebau yn ystyried deiseb sy’n galw am roi’r hawl i bleidleiswyr gael gwared ar Aelodau o’r Senedd cyn diwedd eu cyfnod seneddol – ac mae’r ddeiseb yn un “synhwyrol”, yn ôl y sylwebydd gwleidyddol Theo Davies-Lewis.
Ar hyn o bryd, mae pob aelod sy’n cael eu hethol yn y Senedd yn aros yn eu rôl am bum mlynedd, oni bai eu bod nhw’n ymddiswyddo’n wirfoddol, hyd yn oed os nad yw etholwyr yn hapus gyda’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni.
Ond mae deiseb sydd wedi’i chyflwyno i’r Senedd, ac sydd bellach wedi’i chau, yn galw ar y Senedd i fabwysiadu trefn adalw fyddai’n galluogi etholwyr i bleidleisio o blaid gorfodi Aelodau o’r Senedd i adael eu seddi.
Mae’r ddeiseb yn awgrymu y dylai adalwad gael ei sbarduno pan fydd deiseb ar-lein sy’n galw ar Aelod i adael ei sedd yn derbyn 100 neu fwy o lofnodion gan bleidleiswyr cofrestredig.
Yn ôl awdur y ddeiseb, dylai’r Senedd fabwysiadu trefn debyg i’r Ddeddf Adalw Aelodau Seneddol 2015.
Mae’r ddeiseb wedi derbyn ychydig dros 2,000 o lofnodion, ac felly bydd y camau nesaf bellach yn cael eu hystyried gan y pwyllgor.
System adalw San Steffan
Cafodd Deddf Adalw Aelodau Seneddol 2015 ei phasio gan San Steffan, ac mae’n galluogi etholwyr i adalw eu Haelodau Seneddol a sbarduno is-etholiad.
Mewn rhai gwledydd, mae modd i etholwyr ddwyn achos yn erbyn eu Haelodau Seneddol, ond dydy hyn ddim yn wir yn y Deyrnas Unedig.
Er mwyn cael eu hadalw, mae’n rhaid i’r Aelod fod wedi cael eu canfod yn euog o gamymddwyn sy’n bodloni meini prawf penodol.
Mae hyn yn cynnwys dedfryd o garchar o flwyddyn neu lai (gan fod dedfrydau mwy yn anghymwyso Aelodau Seneddol yn awtomatig), diarddeliad dros dro o Dŷ’r Cyffredin am o leiaf ddeng diwrnod neu ddedfryd am hawlio treuliau ffug neu gamarweiniol.
Os yw un ym mhob deg o etholwyr yn llofnodi’r ddeiseb yn erbyn yr Aelod wedyn, maen nhw’n cael eu gorfodi i roi’r gorau i’w sedd.
Mae’r ddeddf wedi cael ei defnyddio’n llwyddiannus yn achos pedwar allan o bum aelod seneddol hyd yma.
Yn 2019, cafodd Fiona Onasanya, Aelod Seneddol Peterborough, ddedfryd o garchar am lai na blwyddyn.
Yn ystod yr un flwyddyn, hawliodd Chris Davies, Aelod Seneddol Brycheiniog a Sir Faesyfed, dreuliau ffug neu gamarweiniol.
Y llynedd, cafodd Margaret Ferrier ei diarddel o Dŷ’r Cyffredin am 30 niwrnod am dorri rheolau Covid-19, a chafodd Peter Bone ei wahardd o’r Tŷ am chwe wythnos yn sgil bwlio a chamymddwyn yn rhywiol.
System bresennol “ddim yn gwneud synnwyr”
“Mae’n rhaid i ni ddeall bod gennyn ni Senedd annibynnol yma yng Nghymru,” meddai Theo Davies-Lewis, sy’n ysgrifennu i’r Spectator, wrth golwg360.
“Mae’n gymhleth iawn achos, ar hyn o bryd, mae’n anodd iawn cael gwared ar Aelodau Seneddol heblaw am etholiad cyffredinol neu is-etholiad.”
Ychwanega nad yw’n gwneud synnwyr fod Aelodau o’r Senedd yn cael cadw eu seddi heb eu herio, hyd yn oed os ydyn nhw’n torri rheol neu’n newid plaid.
“Rydyn ni wedi gweld esiamplau o Aelodau yn newid pleidiau yng nghanol cyfnod o wleidyddiaeth, a dydw i ddim yn credu bod hynny’n gwneud llawer o synnwyr chwaith,” meddai.
“Jest yn ehangach, dw i’n meddwl bod rhaid i ni feddwl ychydig yn wahanol, fel mae’r ddeiseb yn ei wneud, am sut ydyn ni’n pleidleisio ac yn ethol Aelodau.
“Mae’n gyfrifoldeb ac yn anrhydedd fawr ac felly, os ydych chi’n gwneud rhywbeth yn anghywir yn gyfreithiol neu yn newid pleidiau, fel egwyddor, dw i’n credu bod y platfform rydych chi wedi ei ethol arno wedi newid.”