Mae Rishi Sunak yn dweud ei fod yn disgwyl i etholiad cyffredinol gael ei gynnal yn ystod ail hanner 2024.
Roedd sôn y gallai’r etholiad gael ei gynnal y gwanwyn yma, ond mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig fel pe bai wedi wfftio hynny.
Wrth siarad ag ITV, dywedodd ei fod yn “cymryd” y byddai’r etholiad yn cael ei gynnal “yn ystod ail hanner eleni”.
Yn ôl rheolau etholiadol, rhaid cynnal yr etholiad cyffredinol nesaf erbyn Ionawr 2025 fan bellaf.
‘Ar blaned arall’
Mae’r cyhoeddiad gan Rishi Sunak wedi cael ei feirniadu gan Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.
Daw hyn ar ôl i bôl gan Best for Britain ddatgelu’n ddiweddar bod tri ym mhob pump o bleidleiswyr am weld etholiad cyffredinol cynnar yn cael ei gynnal.
Dim ond 17% sy’n credu y dylid aros tan ddiwedd 2024.
“Mae Rishi Sunak ar blaned arall i bobol ledled y Deyrnas Unedig sy’n gweiddi am etholiad cyffredinol RŴAN,” meddai.
“Mae gan Blaid Cymru set gref o ymgeiswyr yn barod i frwydro dros Gymru yn San Steffan – pencampwyr cymunedol a fydd yn mynnu tegwch ac uchelgais i’n cymunedau.”