Mae Cyngor Sir Ddinbych yn apelio ar bobol helpu i leihau’r effaith mae sbwriel yn ei chael ar waith i amddiffyn mamal sydd mewn perygl yng ngwarchodfa natur y Rhyl.

Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych yn annog pobol a gyrwyr sy’n defnyddio’r llwybrau a’r ffyrdd o gwmpas Gwarchodfa Natur Pwll Brickfield i fod yn gyfrifol pan fyddan nhw’n gwaredu sbwriel personol, i helpu i amddiffyn gwaith cadwraeth barhaus ar y safle.

Daw’r apêl wrth i’r Ceidwaid Cefn Gwlad barhau i weithio ar ddatblygu cynefin yn y warchodfa natur i gefnogi llygod pengrwn y dŵr.

Datblygu ardaloedd i lygod pengrwn y dŵr

Ar hyn o bryd mae llygod pengrwn y dŵr wedi’u rhestru fel mamaliaid mewn perygl ar Restr Goch Prydain Fawr ar gyfer Mamaliaid.

Maen nhw i’w gweld mewn ardaloedd ar hyd afonydd, nentydd a ffosydd ac o gwmpas pyllau a llynnoedd, gan wneud Pwll Brickfield yn amgylchedd addas iddyn nhw.

Mae ardal wedi’i datblygu ar gyfer cynefinoedd llygod pengrwn y dŵr wrth ymyl perllan gymunedol sydd wedi cael ei hadfywio’n ddiweddar ar ochr de-ddwyreiniol y warchodfa natur gan geidwaid a gwirfoddolwyr.

Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo ar ochr orllewinol y warchodfa wrth ymyl Coleg Llandrillo y Rhyl i agor cynefin arall i gefnogi’r rhywogaeth.

Rhoi’r cyfle i’r mamaliaid ffynnu

Bellach, mae ceidwaid cefn gwlad yn gweithio i leihau faint o sbwriel sydd yn y parc allai fod yn beryglus i lygod pengrwn y dŵr ac anifeiliaid eraill yn yr ardal.

Maen nhw’n gofyn i’r cyhoedd fod yn ystyriol o’u sbwriel wrth ymweld.

“Y brif broblem sydd gennym o gwmpas y pwll yw’r sbwriel gan y bydd hynny’n effeithio ar boblogaeth llygod pengrwn y dŵr,” meddai’r Ceidwad, Vitor Evora.

“Gall ddod o ochr arall y ffens gan fod gennym y ffordd yno, mae nifer o bobol yn cerdded heibio a gall hyd yn oed y gwynt ddod â’r sbwriel i’r pwll.

“Bydd yn effeithio ar boblogaeth llygod pengrwn y dŵr gan y bydd yn llygru’r dŵr, gallent hyd yn oed fynd i mewn i boteli bach a hyd yn oed boddi neu farw o syched yn y pen draw.

“Felly rydym yn gofyn i’r cyhoedd fod yn ystyriol o’u sbwriel eu hunain pan allant a defnyddio’r cyfleusterau sydd o amgylch y pwll i gael gwared ar unrhyw sbwriel yn ddiogel.”

Mae’r ceidwaid yn parhau i gasglu sbwriel o gwmpas y pwll bob dau ddiwrnod, gan geisio targedu adegau prysur yn y warchodfa hefyd.

“Mae ein ceidwaid a’n gwirfoddolwyr yn gweithio’n galed iawn o gwmpas y trysor hwn yn y Rhyl i wella’r amgylchedd er lles yr anifeiliaid a’r bobl sy’n ymweld,” meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant.

“Mae’r gwaith i amddiffyn a chefnogi llygod pengrwn y dŵr yn rhan hanfodol o sut ydym yn ceisio atal y gostyngiad yn ein bioamrywiaeth leol a byddwn yn gofyn i’r rheiny sy’n ymweld, yn cerdded neu’n gyrru gerllaw’r warchodfa natur i fod yn ystyriol iawn pan fyddant yn cael gwared ar eu sbwriel er mwyn rhoi cyfle i’r mamaliaid hyn sydd ar y rhestr goch ac anifeiliaid eraill i ffynnu yn yr ardal wych hon.”