Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi bod yn amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer 2024, nes iddo gamu i lawr yn y gwanwyn.
Ymysg y materion ar ei agenda mae’r Gyllideb, dyfodol y diwydiant dur, ac ymchwiliad Covid-19.
Bydd Mark Drakeford yn parhau’n Brif Weinidog Cymru nes y bydd ei olynydd – naill ai Jeremy Miles neu Vaughan Gething – yn cael ei benodi ym mis Mawrth, ac mae’n dweud bod “llawer iawn o waith i’w wneud” rhwng nawr a hynny.
Agorodd y gynhadledd drwy ddiolch i weithwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gweithwyr gofal ar un o adegau prysura’r flwyddyn, cyn mynd yn ei flaen i amlinellu ei flaenoriaethau.
Blaenoriaethau ar ddechrau 2024
Y Gyllideb
Dechreuodd y Prif Weinidog gan nodi bod y Gyllideb yn un o’i flaenoriaethau.
Cafodd y Gyllideb Ddrafft ei chyhoeddi ym mis Rhagfyr, gyda thoriadau ar draws holl bortffolios y Llywodraeth, ac eithrio iechyd.
Mae disgwyl i’r Gyllideb derfynol ar gyfer 2024-25 gael ei chyhoeddi ar Chwefror 27.
“Mae’r wythnos hon yn nodi dechrau tymor newydd lle byddwn ni’n gweithio’n galed i basio’r Gyllideb fwyaf heriol rydym ni wedi’i ddatblygu erioed,” meddai.
“Bydd y Gweinidog Cyllid yfory yn nodi sut rydym wedi ailgynllunio ein cynlluniau gwariant i ganolbwyntio gwariant tuag at wasanaethau rheng flaen y GIG a llywodraeth leol graidd – hyd yn oed y gwasanaethau hynny sy’n derbyn cyllid ychwanegol.
“Bydd y flwyddyn nesaf yn un anodd arall i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
“Mae ein Cyllideb – sy’n dod yn bennaf o grant bloc a dderbyniwyd drwy Lywodraeth y DU – wedi cael ei erydu gan effaith chwyddiant uchel parhaus, ac mae bellach werth £1.3 biliwn yn llai mewn termau real na phan gafodd ei gosod gan y Canghellor Rishi Sunak dair blynedd yn ôl.
“£1.3bn yn llai na’r hyn yr oedd y Canghellor yn credu oedd ei angen ar Gymru er mwyn cwrdd â’r gofynion ar ein gwasanaethau cyhoeddus.
“Ar ôl mwy na degawd o bolisïau llymder (austerity), llanast Brexit, pandemig Covid ac argyfwng costau byw, rydym wedi gorfod gwneud dewisiadau llwm ac anodd iawn wrth i ni ddatblygu’r Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2024/25.
“Bydd pasio’r Gyllideb honno yn ddarn allweddol o waith i ni rhwng nawr a mis Mawrth.”
Dyfodol y diwydiant creu dur
Un arall o flaenoriaethau’r Prif Weinidog yw sicrhau dyfodol hirdymor y diwydiant dur yng Nghymru.
“Y mis hwn rydym yn disgwyl dysgu mwy am gynlluniau Tata Steel ar gyfer dyfodol gwneud dur yng Nghymru,” meddai.
“Mae hwn wedi bod yn gyfnod ansicr iawn i weithwyr Tata, eu teuluoedd a’r busnesau yn y gadwyn gyflenwi ehangach.
“Fel llywodraeth, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddyfodol tymor hir ar gyfer gwneud dur yng Nghymru, a’r mis hwn byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi hynny.”
Ymchwiliad Covid-19
Soniodd y Prif Weinidog hefyd am ymchwiliad Covid-19 y Deyrnas Unedig yn ymweld â Chymru ym mis Chwefror, gan ddweud y bydd y Llywodraeth yn parhau i baratoi dros y misoedd nesaf.
“Wrth gwrs, o fewn y llywodraeth byddwn yn parhau i baratoi ar gyfer modiwl Cymreig Ymchwiliad Covid-19 y DU, fydd yn archwilio ymateb Llywodraeth Cymru i’r pandemig,” meddai
“A bydd y gwrandawiadau wyneb yn wyneb ar gyfer y modiwl hwnnw o’r ymchwiliad yn cael eu cynnal yng Nghymru o ddiwedd mis Chwefror.”
Y Ceidwadwyr Cymreig heb eu plesio
Yn ôl Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, mae gan y Prif Weinidog y “blaenoriaethau anghywir”.
“Mae’r Llywodraeth Lafur yn parhau i roi arian, amser ac egni i mewn i greu mwy o Aelodau o’r Senedd yn hytrach na chanolbwyntio ar ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymreig, ein plant ysgol a’n gwasanaethau cyhoeddus sy’n cael trafferth ymdopi.
“Gallai’r arian hyn, yn hytrach, gael ei ddefnyddio i recriwtio meddygon, nyrsys ac athrawon.”