Mae diffyg cymorth ariannol i geiswyr lloches am ei gwneud hi “bron yn amhosib” i deuluoedd brynu bwyd, medd cadeirydd un elusen.

Bydd taliadau wythnosol i geiswyr lloches sy’n byw mewn gwestai neu letyau sy’n darparu bwyd yn gostwng o £9.58 i £8.86 heddiw (Ionawr 8).

Er bod y taliadau wythnosol safonol yn codi o £47.39 i £49.18, mae elusennau yng Nghaerdydd ac Abertawe’n rhybuddio nad ydy hynny’n ddigon.

Mae elusen Swansea Asylum Seekers Support (SASS) yn darparu prydau poeth i geiswyr lloches bob nos Wener, ac mae eu cadeirydd yn dweud fod y niferoedd sy’n manteisio ar eu darpariaeth wedi cynyddu tua 30% dros y chwe mis diwethaf.

Bellach mae tua 100 i 110 o geiswyr lloches yn mynd atyn nhw am brydau bob wythnos, o gymharu â’r 75 i 80 oedd yn mynd chwe mis yn ôl.

“Maen nhw hefyd yn gallu dod am wersi Saesneg, sgyrsiau, cymdeithasu, i blant chwarae… ond mae’r cyfle i gael pryd poeth gyda phobol eraill yn bwysicach nawr nag oedd ddeunaw mis yn ôl,” meddai Sandra Morton, Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr SASS, wrth golwg360.

“Mae yna bobol yn dod atom ni sydd heb fwyta o gwbl drwy’r dydd, dyma’r unig fwyd maen nhw’n ei gael mewn diwrnod.

“Dydy’r [cymorth] ddim wedi bod yn dda tan nawr, mae pethau wedi bod reit anodd, ac mae hyn yn mynd i’w gwneud hi’n amhosib, neu bron yn amhosib, i lot o geiswyr lloches, teuluoedd ac unigolion, i gael ddigon o arian i brynu bwyd i allu creu unrhyw fath o brydau ar gyfer eu teulu’n ystod yr wythnos, a gallu prynu cewynnau, nwyddau ymolchi ac ati.

“Bydd unrhyw fath o bethau ychwanegol tu hwnt iddyn nhw’n llwyr.”

‘Angen tosturi a charedigrwydd’

Mae angen cydnabyddiaeth na all pobol fyw ar incwm wythnosol o lai na £50, meddai Sandra Morton, gan ychwanegu bod angen ei gynyddu’n “sylweddol”. Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n penderfynu ar raddfa’r gefnogaeth ar y funud.

“Dw i ddim yn ffyddiog iawn fod hynny am ddigwydd,” ychwanega.

“Cyn y Nadolig, fe wnaethon ni, diolch i grant gan y Grid Cenedlaethol, roi 200 o becynnau cynnes i bobol – blancedi, het, menig, potel ddŵr poeth. Nid dim ond bwyd ydy’r broblem, ond bod yn oer.

“Mae angen tosturi, caredigrwydd, a derbyn nad ydy’r hyn sy’n digwydd nawr yn gynaliadwyedd.”

Ychwanega fod y rhan fwyaf o’r ceiswyr lloches eisiau gallu gweithio, ond ar hyn o bryd does gan geiswyr lloches ddim hawl i weithio nes bod eu cais am loches wedi cael ei gymeradwyo, a gall hynny gymryd blynyddoedd.

“Mae hyn yn effeithio’n fawr ar blant ac oedolion sydd wedi amser trawmatig iawn ac mae’r ffaith na fedran nhw fwydo’i hunain, yr holl bethau hynny, yn cael effaith fawr ar eu hiechyd meddwl a gallu plant i ymdopi a chymdeithasu a llwyddo mewn ysgolion – dyna maen nhw eisiau, ond dydy hynny ddim yn bosib heb fwyd yn eich bol.”

‘£7 y diwrnod ddim yn ymarferol’

Draw yng Nghaerdydd, mae Norman Gettings o elusen Oasis yn dweud bod y rhan fwyaf o’u cleientiaid nhw’n dymuno gweithio hefyd.

“Does yna ddim byd mwy y bysa ein cleientiaid yn ei hoffi na gallu gweithio. Yn amlwg i’r rhai sydd ddim mewn lle i gymryd gwaith yn syth, dylen nhw dderbyn budd-daliadau mwy hael a bod y budd-daliadau hynny ynghlwm â chwyddiant,” meddai wrth golwg360.

“Mae pethau fel nwyddau mislif a nwyddau ymolchi yn eitemau angenrheidiol i ni gyd, ac er bod ein cleientiaid yn gwerthfawrogi’r help sy’n cael ei roi iddyn nhw, mae hwnnw ar lefel sylfaenol iawn.

“Dydy tua £7 y diwrnod ddim yn ymarferol i neb heddiw.”

Wrth drafod y toriadau i gefnogaeth ceiswyr lloches sy’n byw mewn gwestai, dywed Norman Gettings ei fod am gael “effaith enfawr” ar bobol sy’n byw yn agos at y llinell dlodi beth bynnag.

“Os ydyn nhw’n byw ochr arall i’r ddinas, neu tu allan i Gaerdydd, maen nhw’n gorfod teithio i ddefnyddio’n gwasanaethau,” eglura.

“Does yna ddim cyllid penodol ar gyfer trafnidiaeth o fewn yr arian maen nhw’n ei dderbyn. Mae tocyn dydd yng Nghaerdydd yn £4, felly os ydyn nhw’n gorfod dod mewn o westy neu dŷ ochr arall i’r ddinas, mae’n cymryd yr holl arian ar gyfer y diwrnod.

“Mae trafnidiaeth yn mynd â lot o’u harian os ydyn nhw eisiau mynd i ddosbarthiadau Saesneg, os ydyn nhw angen mynd at y meddyg, i’r ysbyty… mae hwnnw’n mynd â’u hincwm.

“Dydy faint o arian maen nhw’n ei gael gan y llywodraeth erioed wedi bod yn hael iawn, ac yn amlwg mae chwyddiant yn bwyta mewn i hynny,” ychwanega wrth siarad yn fwy cyffredinol.

“Maen nhw’n gwerthfawrogi fod rhai o’u biliau yn cael eu talu, ond maen nhw dal angen bodoli o ddydd i ddydd.”

Dylai ceiswyr lloches gael gweithio yn y Deyrnas Unedig ar ôl chwe mis

Liz Saville Roberts

Byddai’n mynd i’r afael â phrinder llafur ac yn rhoi hwb mawr ei angen i’n heconomi, yn ôl arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan

‘91% o geiswyr lloches heb ddigon o arian i brynu bwyd drwy’r amser’

“Mae’r lefelau isel o gefnogaeth yn golygu bod pobol sy’n ceisio lloches yn cael eu caethiwo mewn ansicrwydd ariannol diddiwedd”