Gosod targedau newydd ar gyfer yr economi, deddfu ar ariannu teg i Gymru a rhoi mwy o hyblygrwydd i’r Senedd o ran trethiant fydd rhai o’r cynigion mae Plaid Cymru am eu gwneud yr wythnos hon.
Bydd Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, yn nodi ei weledigaeth ar gyfer ffyniant economaidd a chymdeithasol i Gymru, yn ystod darlith ar gyfer Canolfan Llywodraethiant Cymru yng Nghaerdydd.
Wrth fyfyrio ar 25 mlynedd o ddatganoli, mae disgwyl iddo fe bwysleisio “tegwch ac uchelgais” wrth wraidd ei genhadaeth wleidyddol i Gymru.
‘Pobol Cymru yw ein hased mwyaf’
Yn ôl Rhun ap Iorwerth, mae’r wlad yn parhau i danberfformio’n economaidd, ond gallai adeiladu ar y gwendid yma sicrhau Cymru “decach, fwy uchelgeisiol”, meddai.
“Er bod ymdeimlad newydd o genedligrwydd wedi datblygu’n ddiwylliannol a bod dealltwriaeth wleidyddol gynyddol o’r pwerau sy’n byw yng Nghymru – yn enwedig ar ôl y pandemig – rydym yn parhau i danberfformio’n barhaus ar sawl metrig, gan gynnwys, yn hollbwysig, tanberfformiad economaidd, gwendid o chwarter canrif sydd angen mynd i’r afael ar fyrder.
“Os methwn yn yr ymdrech hon, byddwn yn methu yn ein cenhadaeth i sicrhau Cymru decach, fwy uchelgeisiol.
“Nid yw tegwch ac uchelgais yn annibynnol o’i gilydd – i’r gwrthwyneb – mae’r ddau yn rhan annatod o’i gilydd.
“Nid yw credu mewn ailddosbarthu cyfoeth a gwladwriaeth sy’n cefnogi pobol yn bodoli ar wahân i gefnogi mentrau llwyddiannus.
“Mae pobol yn ganolog i’r ddau beth, a phobol Cymru yw ein hased mwyaf wedi’r cyfan.”
Hybu twf economaidd a chynhyrchiant
Mae Rhun ap Iorwerth wedi nodi cyfres o gynigion sydd wedi’u cynllunio i hybu twf economaidd a chynhyrchiant – yn eu plith mae gwneud Bil Tegwch Economaidd (Cymru) yn gyfraith.
“Trwy ymgorffori Bil Tegwch Economaidd (Cymru) yn gyfraith, byddem yn ail-gydbwyso cyfoeth y Deyrnas Unedig, gan sicrhau bod Cymru’n cael yr hyn sy’n ddyledus iddi ac yn hollbwysig yr hyn sydd ei angen arni mewn buddsoddiad cyhoeddus,” meddai.
“Byddai’n mynd â ni i ffwrdd o ragrith y ddadl bod yn rhaid i’r rhan fwyaf o rannau’r Deyrnas Unedig fyw o dan ddwrn haearn cyfrifoldeb cyllidol tra bod eraill yn elwa o drapiau mwy o wariant fel melysydd cyn yr etholiad.
“Heb degwch wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau economaidd, bydd Cymru bob amser yn cael ei llesteirio gan ei hawydd i fod y genedl uchelgeisiol a ffyniannus y mae’n ymdrechu i fod.
“Pe bai Bil Tegwch Economaidd wedi’i ategu gan gorff cyflafareddu hyd fraich annibynnol wedi bod ar y llyfr statud, byddai’r alwad ystadegol o gywilydd sy’n amlygu tanariannu Cymru yn edrych yn wahanol iawn.
“Rhwng 2001 a 2029 – mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif y bydd Cymru wedi colli rhwng £2.9bn ac £8bn o fuddsoddiad rheilffyrdd yn unig.
“Mae’n cyfrifo ymhellach fod y Gronfa Lefelu i Fyny a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn ein gadael ni dros biliwn o bunnoedd yn waeth ein byd.
“Mae’r rhain yn niferoedd sylweddol.
“Ac mae colli’r math hwnnw o fuddsoddiad yn gwneud gwahaniaeth mawr.”