Mae angen cyflwyno Cyfraith Hillsborough ar unwaith, yn ôl Jack Sargeant, Aelod Llafur o’r Senedd dros Alun a Glannau Dyfrdwy.

Bu’n gefnogwr ers amser maith o Gyfraith Hillsborough, fyddai’n gosod dyletswydd gyfreithiol ar gyrff cyhoeddus fel Swyddfa’r Post i ddweud y gwir yn ystod ymchwiliadau.

Daw ei sylwadau wedi i ddrama Mr Bates vs The Post Office ar ITV ailsbarduno trafodaethau ynglŷn â sgandal Swyddfa’r Post, arweiniodd at erlyn cannoedd o is-bosfeistri yn annheg wedi iddyn nhw gael eu cyhuddo o ddwyn arian.

O ganlyniad i’r cyhuddiadau, wynebodd cannoedd o is-bosfeistri ddirwyon sylweddol, a chafodd eraill eu hanfon i’r carchar.

Bu i un gymryd ei fywyd ei hun.

Er i 550 o is-bostfeistri dderbyn cyfran o iawndal o £58m, mae cannoedd yn rhagor yn aros am gyfiawnder o hyd.

Pam Cyfraith Hillsborough?

Bil gafodd ei gyflwyno gan Andy Burnham, Maer Manceinion, yn 2017 yw Cyfraith Hillsborough.

Mae’n dwyn enw’r cae pêl-droed yn Sheffield, lle digwyddodd trychineb yn 1989 oedd wedi hawlio bywydau 97 o bobol o ganlyniad i wasgfa yn sgil gorlenwi’r terasau.

Yn dilyn y trychineb, daeth i’r amlwg fod swyddogion wedi dweud celwydd am drefn digwyddiadau’r diwrnod, a bod hynny wedi arwain at anghyfiawnder i’r teuluoedd dros gyfnod o ddegawdau.

Mae Jack Sargeant yn credu y byddai’r gyfraith, drwy osod dyletswydd gyfreithiol i ddweud y gwir, yn atal ailadrodd anghyfiawnderau fel Hillsborough a sgandal Swyddfa’r Post.

“Dw i’n meddwl, os ydych chi wedi gwylio’r ddrama [am Swyddfa’r Post] ac wedi gweld sut mae hynny’n datblygu, mae pobol sydd ddim yn dweud y gwir yn rhan fawr o’r broblem,” meddai wrth golwg360.

Cyfeiria at y ffaith fod gwybodaeth hanfodol fyddai wedi gallu atal erlyniad wedi cael ei dileu neu ei chelu oddi wrth y dioddefwyr.

Ychwanega y byddai’r gyfraith yn golygu bod dyletswydd ar sefydliadau i ddatgelu unrhyw ddeunydd perthnasol – rhywbeth na chafodd ei wneud yn achos Swyddfa’r Post.

“Os edrychwch chi ar sgandal Swyddfa’r Post, mae yna wybodaeth na chafodd ei rhannu â dioddefwyr,” meddai.

“Er enghraifft, stori Jo Hamilton lle canfu ymchwiliad mewnol Swyddfa’r Post nad oedd unrhyw dwyll.

“Doedd dim tystiolaeth o gymryd yr arian. Doedd dim tystiolaeth o dwyll o gwbl.

“Felly, mewn gwirionedd ddylen nhw ddim bod wedi dilyn y llwybr wnaethon nhw, a ddylai hi ddim bod wedi cael ei gorfodi i fynd i’r llys.

“Pe bai’r dogfennau hyn wedi dod i’r amlwg yn gynnar, fyddai’r teuluoedd a rhai o’r is-bostfeistri ddim wedi gorfod mynd drwy’r trawma.”

Cynrychiolaeth deg

Ychwanega Jack Sargeant mai problem arall ar hyn o bryd yw’r diffyg mynediad at gynrychiolaeth gyfartal gan gyfreithwyr.

Dywed mai pobol gyffredin yw’r dioddefwyr mewn achosion fel un Swyddfa’r Post neu Hillsborough fel arfer, ac felly yn aml does ganddyn nhw ddim cyllid i gael cyfreithiwr i’w cynrychioli.

“Os ydych chi’n gwylio drama ITV am sgandal Swyddfa’r Post, mae un olygfa lle mae gŵr bonheddig, cyn is-bostfeistr, yn cynrychioli’i hun yn y llys yn erbyn tîm cyfreithiol profiadol,” meddai.

“Byddai cyflwyno cyfraith Hillsborough nawr yn rhoi mynediad at gynrychiolaeth gyfartal a’r cyllid i gefnogi cyfreithwyr a’r tîm cyfreithiol.”

Dywed mai cwestiwn arall mawr yw pam mai Angela van de Bogerd roddodd y dystiolaeth yn y llys ac nid y cyn-Brif Weithredwr Paula Vennells.

“Doedd Angela van de Bogerd ddim wedi rhoi tystiolaeth onest; ceisiodd hi rwystro materion a chamarwain y llys,” meddai.

“Wnaeth hi, Fujitsu nac unrhyw swyddogion gweithredol Swyddfa’r Post ddim wynebu sgil-effeithiau hynny.

“Byddai Cyfraith Hillsborough nawr yn rhoi diwedd ar hyn.”

‘Colli bywoliaeth’

Noda Jack Sargeant fod trychineb Tŵr Grenfell yn enghraifft arall lle cafodd dioddefwyr eu camarwain.

“Rydyn ni wedi gweld beth sy’n digwydd pan fydd sefydliadau’n cael camarwain llysoedd, yn cael peidio â dweud y gwir, yn cael defnyddio tactegau cyfreithiol o oedi trwy gyfreithwyr drud lle nad yw pobol gyffredin yn cael yr un cyfle,” meddai.

“Yr hyn welson ni gyda Swyddfa’r Post, yn anffodus, oedd fod nifer o bobol yn colli eu bywydau i hunanladdiad neu iechyd gwael cyn cael cyfiawnder a chyn clywed y gwir.

“Maen nhw’n colli eu bywoliaeth.”