Mae Neil Foden, prifathro 66 oed o Hen Golwyn yn sir Conwy, yn gwadu’r 21 o gyhuddiadau o droseddau rhyw yn ei erbyn.

Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug fod yr honiadau’n ymwneud â chwe achwynydd – pum plentyn ac un oedolyn.

Aeth gerbron y llys drwy gyswllt fideo o Garchar y Berwyn yn Wrecsam heddiw (dydd Gwener, Ionawr 5) i bledio’n ddieuog i bob cyhuddiad.

Clywodd y llys fod y cyhuddiadau’n cynnwys gweithgaredd rhywiol â phlentyn, cyfathrebu’n rhywiol â phlentyn, annog gweithred rywiol, ceisio trefnu trosedd rywiol, a bod â lluniau a fideos anweddus yn ei feddiant.

Cafodd ei wahardd o’i waith gan ei gyflogwr fis Medi’r llynedd, wedi iddo gael ei arestio.

Mae disgwyl y bydd achos llawn yn ei erbyn yn dechrau yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar Ebrill 22, a gallai bara hyd at dair wythnos.