Bydd colli gwasanaeth bws y T2 yn gadael trigolion Garndolbenmaen yng Ngwynedd yn “ynysig”, yn ôl Mabon ap Gwynfor.

Daw sylwadau Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd yn dilyn cyfarfod cyhoeddus yn y pentref i drafod y sefyllfa.

Mae penaethiaid trafnidiaeth Llywodraeth Cymru yn cael eu hannog i wyrdroi penderfyniad i gael gwared ar wasanaeth bws y T2 trwy’r pentref.

Tan yn ddiweddar, roedd deunaw o wasanaethau bws dyddiol, a phump ar benwythnosau, ar gael i drigolion y pentref.

Ond yn sgil newidiadau i’r amserlen, mae’r gwasanaethau wedi cael eu dileu gan achosi pryder i’r gymuned leol.

Yn cefnogi’r alwad i adfer y gwasanaeth allweddol mae Mabon ap Gwynfor, ynghyd â’r Cynghorydd Steve Churchman – dau fu’n annerch y cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd Bentref Garn.

Gwasanaeth allweddol

Roedd gwasanaeth y T2 yn cael ei ddefnyddio gan drigolion o bob oed.

I nifer, dyma’r unig ffordd iddyn nhw allu teithio y tu allan i’r pentref er mwyn cael mynediad at wasanaethau fel apwyntiadau meddygol, siopa bwyd a thasgau dydd i ddydd eraill.

Wrth siarad yn dilyn y cyfarfod, dywedodd Mabon ap Gwynfor fod diffyg ymgynghori ystyrlon gyda’r gymuned leol yn dangos diystyrwch o ran anghenion ei etholwyr, yn enwedig yr henoed a’r rhai sy’n dibynnu’n llwyr ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae deiseb wedi ei sefydlu yn galw am ddychwelyd y T2 i Garndolbenmaen.

“Mae cael gwared ar wasanaeth bws y T2 trwy bentref Garndolbenmaen wedi achosi pryder mawr i bobol leol, yn enwedig i’r rhai sy’n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus i fynd i’r gwaith, yr ysgol neu i gael mynediad at wasanaethau hanfodol fel mynychu apwyntiadau meddygol,” meddai Mabon ap Gwynfor.

“Mae gan Garndolbenmaen boblogaeth hŷn, llawer ohonyn nhw ddim yn gyrru, ac felly eu hunig ffordd o deithio y tu allan i’r pentref yw ar fws.

“Does dim siop, felly rhaid i bobol deithio i Borthmadog i wneud eu siopa.

“Mae llawer o drigolion yn mynychu Ysbyty Gwynedd yn aml ar gyfer eu hanghenion iechyd, ac roedd y T2 yn darparu trosglwyddiad uniongyrchol, dibynadwy o Garndolbenmaen i Fangor.

“Bydd cael gwared ar y gwasanaeth T2 yn cael effaith sylweddol ar amseroedd teithio, gan ychwanegu deugain munud ychwanegol at y daith o Garndolbenmaen i Fangor.

“Mae’n eironig braidd fod gan lawer sy’n byw yng Ngarndolbenmaen docyn bws, ond bellach wedi cael eu gadael heb fws!

“Mae diddymu’r cyswllt cymunedol hanfodol hwn heb unrhyw ystyriaeth i anghenion a lles pobol leol yn amlwg yn annheg ac yn gwneud gwawd o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) Llywodraeth Cymru.

“Ofnaf na fydd y penderfyniad hwn ond yn gwaethygu effaith yr argyfwng costau byw ar ein rhai mwyaf bregus, gyda’r henoed yn dod yn fwy ynysig a’r rhai ar incwm isel yn methu â chael mynediad at ddulliau trafnidiaeth amgen.

“Galwaf ar Lywodraeth Cymru i ddod yn ôl at y bwrdd gydag amserlen ddiwygiedig sy’n mynd i’r afael â phryderon y gymuned leol, adfer gwasanaeth y T2 i Garndolbenmaen a rhoi anghenion defnyddwyr trafnidiaeth cyn unrhyw benderfyniad masnachol.

“Byddwn hefyd yn annog cymaint o bobol â phosibl i lofnodi’r ddeiseb yn galw am adfer y gwasanaeth.”

‘Pryderon gwirioneddol’

“Cyflwynwyd newidiadau sylweddol i wasanaethau bysiau drwy Garndolbenmaen a Phenmorfa heb unrhyw ymgynghori,” meddai’r Cynghorydd Steve Churchman.

“Mae’r newidiadau wedi arwain at drigolion yn methu â chyrraedd nac dychwelyd o’u gwaith ac yn eu hamddifadu o fywyd cymdeithasol.

“Mae anghenion myfyrwyr wedi cael ei diystyru ac mae mynediad i ofal meddygol yn Ysbyty Gwynedd i unrhyw un heb gar yn amhosibl gyda’r nos ac ar y Sul.

“Pe ymgynghorwyd â’r gymuned ar y newidiadau hyn ymlaen llaw, gellid bod wedi codi’r diffygion hyn ac efallai mynd i’r afael â hwy.

“Yn lle hynny, mae’r gwasanaeth yn gwbl anymarferol ac yn gadael trigolion yn ynysig.’

“Mae galwadau trigolion lleol am adolygiad brys yn seiliedig ar bryderon gwirioneddol.

“Gofynnaf i Lywodraeth Cymru ailystyried y penderfyniad sydd wedi gadael ein cymunedau bron yn hollol ynysig.”