Mae clwb rygbi’r gynghrair Widnes Vikings wedi cyhoeddi partneriaeth newydd â Phrifysgol Wrecsam.

Mae’r bartneriaeth yn golygu y bydd logo’r brifysgol yn ymddangos ar grysau meddygon, hyfforddwyr, ffisiotherapyddion a chludwyr dŵr y clwb ar ddiwrnodau gemau yn ystod 2024.

Fel rhan o’r bartneriaeth, bydd myfyrwyr y brifysgol yn elwa ar brofiadau hyfforddi, perfformiad a mwy.

Yn ôl Chris Hamilton, Pennaeth Gweithrediadau Widnes Vikings, bydd y bartneriaeth “yn hysbyseb da iawn i Brifysgol Wrecsam drwy gydol y tymor”.

“Rydyn ni’n gwerthfawrogi’r gefnogaeth ariannol yma ganddyn nhw, ac yn edrych ymlaen at gydweithio â nhw yn ystod yr estyniad hwn i’n partneriaeth bresennol.”

Codi ymwybyddiaeth o addysg uwch

Mae Prifysgol Wrecsam yn gobeithio y bydd y bartneriaeth hon yn codi ymwybyddiaeth o gyfleoedd addysg uwch.

“Rydyn ni’n eithriadol o falch o fod yn noddwr crysau staff Widnes Vikings ar gyfer y tymor newydd wrth iddyn nhw redeg ymlaen ar ddiwrnodau gemau,” meddai Dr Simon Stewart, Deon Cyfadran Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd Prifysgol Wrecsam.

Ychwanega fod gan y clwb a’r brifysgol “orchwyl ar y cyd i godi perfformiad, gwneud y mwyaf o ddulliau hyfforddi, a gwella datblygiad cyfannol chwaraewyr”, ac mai gobaith y brifysgol yw “cynyddu cyfranogiad ac ymwybyddiaeth o addysgu uwch ymhellach, er mwyn codi dyheadau pobol ifanc o fewn ein cymunedau a thu hwnt”.