Daeth cadarnhad bellach mai Luke Williams yw rheolwr newydd Clwb Pêl-droed Abertawe.

Mae’n olynu Michael Duff, gafodd ei ddiswyddo 32 diwrnod yn ôl.

Mae’r gŵr 43 oed wedi llofnodi cytundeb tair blynedd a hanner ar ôl gadael Notts County, lle enillodd e ddyrchafiad o’r Gynghrair Genedlaethol i Ail Adran y Gynghrair Bêl-droed y tymor diwethaf.

Mae Ryan Harley, ei is-reolwr, a’r dadansoddwr George Lawtey wedi symud gyda fe i Stadiwm Swansea.com.

Bydd y tîm rheoli newydd wrth y llyw wrth i’r Elyrch groesawu Morecambe yng Nghwpan FA Lloegr ddydd Sadwrn (Ionawr 6).

Bydd Alan Sheehan, sydd wedi bod yn gofalu am y tîm ers mis, yn aros yn rhan o’r tîm hyfforddi, ynghyd â Martyn Margetson (hyfforddwr y gôl-geidwaid) a Kris O’Leary.

‘Proses ddiwyd a manwl’

“Fel dw i wedi dweud o’r blaen, rydyn ni wedi ymgymryd â phroses ddiwyd a manwl i ddod o hyd i’n prif hyfforddwr nesaf,” meddai’r cadeirydd Andy Coleman.

“Dw i wedi bod yn ffodus o gael treulio llawer o amser gyda Luke yn ddiweddar.

“Dw i wedi edrych i fyw ei lygaid ac yn gwybod y gallwn ni ymddiried yn Luke i fod yn hyfforddwr ac yn arweinydd sy’n cyd-fynd â’n gweledigaeth ar gyfer Abertawe.

“Mae e’r un anian â rheolwyr ifainc dawnus ac uchelgeisiol eraill sydd wedi llwyddo yma.

“Dw i’n hyderus y bydd ein cefnogwyr wedi cyffroi ac yn falch o’r tîm hwn dan arweiniad Luke Williams.”

Pwy yw Luke Williams?

Mae gan Luke Williams, sy’n rheolwr eithaf di-brofiad, enw da eisoes am y math o arddull sy’n gweddu i Abertawe, yn seiliedig ar dimau’n cadw meddiant.

Roedd y dull hwn i’w weld yn ystod ei gyfnod yn rheoli Notts County, oedd wedi ennill 107 o bwyntiau gan sgorio 117 o goliau, ac ildio dim ond 42, yn ystod tymor 2022-23 wrth ennill dyrchafiad drwy’r gemau ail gyfle i Ail Adran y Gynghrair Bêl-droed. Roedden nhw’n ddi-guro mewn 25 o gemau.

Enillon nhw 32 allan o 46 o gemau yn y gynghrair, sy’n record arall i’r clwb.

Wrth iddo fe adael y clwb, maen nhw’n bumed yn yr Ail Adran, a nhw yw prif sgorwyr y Gynghrair Bêl-droed gyfan, gyda 55 o goliau mewn 26 o gemau.

Chwaraeodd Luke Williams ar lefel isel ar ôl graddio o Academi Norwich, ond daeth ei yrfa i ben yn gynnar oherwydd anaf i’w benglin.

Ar ôl troi at hyfforddi, bu’n gweithio gyda Leyton Orient a West Ham cyn ennill cymhwyster drwy Gymdeithas Bêl-droed Lloegr.

Ymunodd â Brighton, gan reoli’r tîm dan 21 a’r ail dîm.

Daeth yn is-reolwr gyda Swindon cyn dod yn rheolwr am gyfnod o 14 mis, cyn symud i Bristol City i hyfforddi’r tîm dan 23.

Cafodd ei benodi wedyn yn is-reolwr gydag MK Dons, gan fagu perthynas waith lwyddiannus gyda Russell Martin, cyn-reolwr Abertawe.

Cafodd ei benodi gan Notts County ar ôl gadael yr Elyrch am resymau personol yn 2022.

‘Anodd gwrthod’

Wrth siarad â’r wasg am y tro cyntaf ers ei benodiad, dywed Luke Williams fod y cynnig yn un anodd i’w wrthod.

“Mae gyda fi brofiad gyda’r clwb yma eisoes, a dw i’n gwybod pa mor ffantastig yw e,” meddai.

“Pan fo’r cadeirydd yn gyrru i’ch tŷ chi ac yn treulio tair awr yn eich lolfa [yn sgwrsio] am yr hyn mae e eisiau ei gyflawni, mae’n anodd gwrthod hynny.

“Daeth cysylltiad trwy fy asiant yn wreiddiol, ac fe siaradon ni sawl gwaith dros Zoom.

“Ges i alwad ganddo fe yn dweud bod Andy [Coleman, y cadeirydd] ar ei ffordd i’r tŷ.

“Dyna pryd wnes i sylweddoli bod pethau’n ddifrifol.

“Ar ôl hynny, roeddwn i wedi cyffroi gymaint.”

Cytundeb ffug

Wrth gyhoeddi’r penodiad, mae tîm y wasg yr Elyrch wedi bod yn cael tipyn o sbort.

Oes gyda chi lygad ddigon craff i weld amodau’r cytundeb unigryw yn y llun isod?