Mae Lance Bradley wedi’i benodi’n Brif Weithredwr rhanbarth rygbi’r Gweilch.

Bydd yn dechrau yn ei swydd newydd ddydd Llun (Ionawr 8), ar ôl bod yn gwneud yr un swydd gyda Chlwb Rygbi Caerloyw am bum mlynedd, gan arwain y clwb drwy’r pandemig, gwyrdroi eu sefyllfa ariannol, a chryfhau sefyllfa tîm menywod Caerloyw-Hartpury oedd yn bencampwyr y Premier 15s y tymor diwethaf.

Cyn hynny, bu’n gweithio gyda Mitsubishi Motors, un o brif bartneriaid Clwb Rygbi Caerloyw, Caeredin, yr Alban a Lloegr.

Dywed ei bod yn “anrhydedd” cael ymuno â’r Gweilch, “clwb sydd â hanes cyfoethog, llwyddiannus a chefnogwyr angerddol”, a’i fod e’n awyddus i godi’r rhanbarth “i uchelfannau newydd”.

Ymateb

“Mae Lance Bradley yn camu i mewn i’w rôl ar adeg dyngedfennol i’r Gweilch, ac mae ei benodiad yn nodi datblygiad strategol i ba mor gystadleuol yw’r clwb a’u lle yn y gymuned rygbi,” meddai James Davies-Yandle, perchennog y Gweilch ac Y11 Sports & Media.

“Gall cymuned y Gweilch ddisgwyl i Bradley ddod â phersbectif a mentrau strategol ffres ac ymrwymiad i greu diwylliant o lwyddiant parhaus.”