Mae Jürgen Klopp, rheolwr tîm pêl-droed Lerpwl, wedi canu clodydd Owen Beck ar ôl galw’r Cymro’n ôl o gyfnod ar fenthyg yn Dundee.

Chwaraeodd y cefnwr 21 oed mewn ugain o gemau yn yr Alban ar draws yr holl gystadlaethau.

Mae’n dychwelyd i Anfield yn sgil anafiadau i Andy Robertson a Kostas Tsimikas.

“Rydyn ni’n bositif iawn am Owen, ond cafodd e ddau gyfnod anodd ar fenthyg,” meddai rheolwr Lerpwl.

“Gall pethau ddigwydd wrth i chi symud oddi cartref.

“Rhaid cael y rheolwr cywir, y tîm cywir, cefnwr chwith profiadol arall yno, gall cynifer o bethau ddigwydd.

“Mae’r sefyllfa yma’n glir.

“Rydyn ni wedi colli dau gefnwr chwith, felly mae’r boi rydyn ni’n ei hoffi ar gael, felly rydyn ni’n dod â fe’n ôl.

“Dyna ni.”