Mae’r Cymro Gerwyn Price o sir Caerffili wedi’i gynnwys ymhlith yr wyth chwaraewr fydd yn chwarae yn Uwch Gynghrair Dartiau’r PDC eleni.

Bydd y gynghrair yn dechrau yng Nghaerdydd ar Chwefror 1.

Y rhai oedd wedi sicrhau eu llefydd yn awtomatig eleni yw Michael van Gerwen, pencampwr y byd Luke Humphries, Michael Smith a Peter Wright.

Yn cwblhau’r wythawd mae Nathan Aspinall, Rob Cross a Luke Littler, y chwaraewr 16 oed a’r ieuengaf erioed i gyrraedd rownd derfynol Pencampwriaeth y Byd ac yntau wedi colli neithiwr (nos Fercher, Ionawr 3).

Mae’n golygu nad oes lle i’r Cymro Cymraeg Jonny Clayton, sydd wedi chwarae yn y gystadleuaeth dair gwaith ar ôl sawl blwyddyn lwyddiannus.