Mae disgwyl i Glwb Pêl-droed Abertawe gadarnhau mai Luke Williams fydd eu rheolwr newydd.

Mae’r Elyrch yn chwilio am reolwr newydd ar ôl diswyddo Michael Duff ar Ragfyr 4, gydag Alan Sheehan wedi bod yn arwain y tîm ers hynny.

Bryd hynny, roedden nhw wedi cipio pum pwynt yn unig allan o 19, ond mae Sheehan wedi sefydlogi’r sefyllfa rywfaint erbyn hyn, gyda thair buddugoliaeth, dwy gêm gyfartal a dwy golled.

Roedd Williams, sy’n dal yn berchen ar eiddo yn y ddinas yn ôl adroddiadau, yn is-reolwr pan oedd Russell Martin wrth y llyw, ond fe adawodd fis Chwefror 2022 am resymau personol.

Mae lle i gredu bod Abertawe a Notts County, tîm presennol Williams, yn trafod iawndal cyn i’r Elyrch gadarnhau’r penodiad, ac mae disgwyl iddyn nhw benodi ei gynorthwyydd Ryan Harley hefyd, a hwnnw wedi bod ar lyfrau’r Elyrch yn 2011 fel chwaraewr.

Cafodd Williams gryn lwyddiant gyda Notts County ar ddiwedd tymor 2021-22, wrth i’r clwb ddychwelyd i’r Gynghrair Bêl-droed, gyda record o 107 o bwyntiau. Maen nhw’n bumed yn yr Ail Adran ar hyn o bryd, saith pwynt islaw’r safleoedd dyrchafiad awtomatig.

Mae’r Elyrch yn unfed ar bymtheg yn y Bencampwriaeth ar hyn o bryd, ac wedi curo West Brom o 1-0 ar Ddydd Calan i ymestyn eu rhediad da.