Mae’r Cymro Cymraeg Jonny Clayton allan o Bencampwriaeth Dartiau’r Byd y PDC.

Collodd e o 4-0 yn erbyn y Sais Rob Cross wrth geisio cyrraedd yr wyth olaf yn yr Alexandra Palace yn Llundain.

Wnaeth Clayton ddim rhagori ar gyfartaledd tri dart o 90.

Enillodd Cross y set gyntaf yn gyfforddus o 3-1, cyn mynd gam ymhellach drwy ennill yr ail set o 3-0.

Enillodd y Cymro gêm gynta’r drydedd set, ond collodd e honno o 3-1.

Cafodd Cross chwe ymgais aflwyddiannus i geisio cipio’r fuddugoliaeth, wrth i Clayton ennill dwy gêm, ond cipiodd y Sais y set o 3-2.