Mae’r Cymro Gerwyn Price allan o Bencampwriaeth Dartiau’r Byd y PDC, ar ôl cael ei guro o 4-2 gan Brendan Dolan o Ogledd Iwerddon yn y drydedd rownd yn yr Alexandra Palace yn Llundain.

Methods Dolan ag ymgais at ganol y bwrdd i gipio’r ornest pan oedd e ar y blaen o ddwy gêm i ddim yn y Chweched set, ac aeth Price yn ei flaen i unioni’r sgôr, 2-2.

ond daeth y fuddugoliaeth i Dolan gyda thafliad cywir at ddwbwl 20.

Heddiw (dydd Gwener, Rhagfyr 29), bydd Jonny Clayton yn wynebu Krzysztof Ratajski, tra bydd Jim Williams yn herio un o’r cewri, Raymond van Barneveld.