Mae perchennog ceffyl fu farw yn dilyn Grand National Cymru yng Nghas-gwent yn dweud ei fod e’n torri’i galon.

Dim ond pum ceffyl gwblhaodd y ras mewn tywydd garw, a bu farw Complete Unknown yn fuan ar ôl y ras.

Nassalam, ceffyl o Ffrainc, enillodd y ras i’w joci Caoilin Quinn, gydag Iron Bridge yn ail ac Iwilldoit yn drydydd.

Roedd Complete Unknown yn bumed yn y ras, ond cafodd y ceffyl hwnnw oedd yn cael ei hyfforddi gan Paul Nicholls anafiadau difrifol yng nghanol y glaw a gwlypter.

“Torri ‘nghalon o golli fy ngheffyl gwych Complete Unknown heddiw yn dilyn Grand National Cymru yng Nghas-gwent,” meddai’r perchennog Ian Warwick ar X (Twitter gynt).

“Mae fy meddyliau gyda phawb oedd wedi gofalu amdano fe.”