Mae Clwb Criced Monkswood yn Sir Fynwy yn dweud bod eu pafiliwn wedi’i ddinistrio gan dân bwriadol neithiwr (nos Iau, Rhagfyr 21).
Mae’r clwb, sy’n chwarae yng Nghynghrair De-ddwyrain Cymru, yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â’r heddlu.
Dywed y clwb eu bod nhw mewn “sioc llwyr” yn sgil y tân, ond na fydd y digwyddiad yn eu “trechu” nhw.
“Rydyn ni’n benderfynol y byddwn ni’n chwarae criced ar y cae yn 2024,” meddai’r datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol.
Cefnogaeth
Mae llu o glybiau criced ledled Cymru wedi datgan eu cefnogaeth i Glwb Criced Monkswood yn dilyn y tân.
Mae Criced Cymru hefyd yn dweud y byddan nhw’n gwneud popeth o fewn eu gallu i’w cefnogi nhw.
Mae Tony Kear, y cynghorydd Ceidwadol lleol, wedi mynegi ei “dristwch” yn sgil y digwyddiad.
“Dw i’n gwybod pa mor angerddol yw’r chwaraewyr a’r aelodau yng Nghlwb Criced Monkswood, a minnau wedi chwarae a dyfarnu yno,” meddai.