Mae Alun Wyn Jones, cyn-gapten tîm rygbi Cymru, wedi datgelu ei fod e wedi cael diagnosis o ffibriliad atrïaidd.

Y cyflwr hwn ar ei galon yw’r un wnaeth taro Tom Lockyer, chwaraewr pêl-droed Cymru a Luton, yn wael yn ystod yr haf.

Cafodd y chwaraewr ail reng driniaeth ar ôl i’w gytundeb gyda chlwb Toulon yn Ffrainc ddod i ben bedair wythnos yn ôl.

Fel rhan o’r driniaeth, fe wnaeth meddygon osod diffibriliwr yn ei galon ar ôl canfod curiad afreolus.

Mae’n disgrifio’i guriad calon “fel ceffyl yn carlamu ar chwe choes”.

Dywed ei bod hi’n bosib fod ymarfer corff a straen wedi cyfrannu at y cyflwr, ond ei fod e wedi cael “sioc” ac yntau’n ymfalchïo o hyd yn ei ffitrwydd.

Yn sgil ei sefyllfa ei hun, mae Alun Wyn Jones bellach yn galw am brofion ar y galon i bob chwaraewr rygbi yng Nghymru er mwyn canfod y cyflwr.