Fydd Clwb Pêl-droed Abertawe ddim yn penodi rheolwr newydd tan ar ôl y Nadolig, yn ôl datganiad gan gadeirydd y clwb.
Dywed Andy Coleman mewn llythyr agored i’r cefnogwyr y bydd Alan Sheehan, sydd wedi bod wrth y llyw dros dro ers diswyddo Michael Duff ar Ragfyr 5, yn gofalu am y tîm ar gyfer y gemau i ddod yn erbyn Preston a Southampton dros gyfnod y Nadolig.
Dywed y cadeirydd ei fod yn “cydnabod, yn gwerthfawrogi ac yn rhannu’r rhwystredigaeth” yn sgil diffyg datblygiadau hyd yn hyn.
Daw hyn ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod y ffefryn ar gyfer y swydd, Chris Davies, am aros yn is-reolwr Spurs.
Mae nifer o enwau wedi’u cysylltu â’r swydd hyd yn hyn, ond dydy hi ddim yn ymddangos bod y clwb yn nes at benodi olynydd i Duff eto.
‘Y penodiad cywir’
Yn ei lythyr, mae Andy Coleman yn pwysleisio pwysigrwydd penodi’r person cywir i’r swydd, gan gadw at athroniaeth ac arddull y tîm.
Ond mae’n cydnabod ar yr un pryd y gall fod angen symud oddi wrth yr hyn sydd wedi dod yn gyfarwydd yn Stadiwm Swansea.com hefyd.
Y flaenoriaeth, meddai, fydd “cyflwyno dull o chwarae sy’n parchu ein hunaniaeth, yn sefydlu perthynas â’r cefnogwyr ac yn symud y clwb hwn yn ei flaen”.
Dywed fod yn rhaid derbyn y gallai dod o hyd i’r person hwnnw gymryd ychydig yn hirach na’r disgwyl, a’u bod nhw’n “barod i dderbyn yr heriau sy’n dod gyda hynny”.
“Ein cyfrifoldeb yw dod o hyd i’r unigolyn cywir, un sy’n ymgorffori’r hyn mae’n ei olygu i gynrychioli Abertawe a’u gwerthoedd, ac sy’n gallu helpu i gyflawni ein nodau o ddyrchafiad a chynaliadwyedd,” meddai.
Ond dywed fod “cryn ddiddordeb” ymhlith ymgeiswyr ar gyfer y swydd, a bod “cynnydd gwych” yn cael ei wneud fel rhan o’r broses recriwtio, ac na fydd y clwb “yn setlo am ymgeisydd nad yw’n addas er mwyn symud yn gyflym”.
“Dw i’n gwybod y cawn ni’r arweinydd fydd yn gwneud ein cefnogwyr yn falch o gefnogi’r clwb pêl-droed gwych hwn, a dw i’n gofyn am eich cefnogaeth i’n chwaraewyr a’n staff dros y dyddiau i ddod,” meddai.