Mae Tom Lockyer, amddiffynnwr canol tîm pêl-droed Cymru a Luton, wedi cael mynd adref o’r ysbyty ar ôl triniaeth i osod diffibriliwr yn ei galon.
Cafodd y driniaeth ar ôl cael ataliad ar y galon wrth chwarae i Luton yn erbyn Bournemouth yn ddiweddar.
Dyma’r ail waith mewn saith mis i’r chwaraewr gael ataliad ar y galon, a dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a fydd e’n parhau â’i yrfa.
Ond mae’r clwb yn dweud bod yr hyn oedd wedi achosi’r ddau ddigwyddiad yn faterion gwahanol.
Mae’r diffibriliwr sydd wedi’i osod yr un fath â’r teclyn gafodd Christian Eriksen ar ôl digwyddiad tebyg yn 2021.
‘Diolch’
Mae’r chwaraewr, ei deulu a chlwb Luton wedi diolch i Glwb Pêl-droed Bournemouth, eu staff a’u cefnogwyr am eu cefnogaeth, ac i’w chwaraewr Philip Billing am roi cymorth cychwynnol ar y cae cyn i barafeddygon ei gyrraedd.
Dywed y clwb iddyn nhw gael “syndod a sioc” yn sgil y digwyddiad, ac maen nhw’n cynnig cymorth a chefnogaeth i unrhyw un gafodd eu heffeithio.
“Rydyn ni mor falch o gael Locks yn gapten arnon ni, a bydd ei arweinyddiaeth yn parhau o’r ystlys, lle bydd ei ddewrder yn ysbrydoli ei gyd-chwaraewyr, ei gydweithwyr a’r cefnogwyr, gan ddechrau ddydd Sadwrn,” meddai Clwb Pêl-droed Luton mewn datganiad.