Mae Jim Williams, y chwaraewr dartiau o Lanandras, wedi cydymdeimlo â Peter Wright, ar ôl curo’r Albanwr yn ail rownd Pencampwriaeth Dartiau’r Byd y PDC yn yr Alexandra Palace.

Dyma’r cynharaf mae Wright wedi gadael y gystadleuaeth ers 2018-19.

Taflodd Williams 124 i gipio’r set gyntaf, gan orfodi Wright i newid ei ddartiau yn ystod yr egwyl.

Ond methodd Wright â saith dart i unioni’r sgôr ar ddiwedd yr ail set, ac fe aeth Williams yn ei flaen i selio’r fuddugoliaeth o dair set i ddim yn y pen draw.

“Roedd hi’n anodd gweld Peter yn ei chael hi’n anodd yn y fan honno,” meddai Jim Williams ar ddiwedd yr ornest.

“Mae’n deimlad rhyfedd; yn amlwg, rydych chi eisiau ennill, ond mae’n anodd oherwydd rydych chi’n chwarae yn erbyn rhywun rydych chi fel arfer yn ei wylio, a dydych chi ddim eisiau eu gweld nhw’n dioddef.”