Mae Osian Roberts, cyn is-reolwr tîm pêl-droed Cymru, wedi’i enwi’n reolwr dros dro ar dîm Como yn yr Eidal.

Bydd e yn y swydd tan ddiwedd y tymor, ac yn cael ei gynorthwyo gan Cesc Fabregas, cyn-chwaraewr canol cae Sbaen, sy’n rhannol berchen ar y clwb sy’n chwarae yn ail adran yr Eidal.

Dyma swydd gynta’r Cymro Cymraeg 58 oed ers iddo fe adael Crystal Palace ym mis Mawrth, lle’r oedd yn cynorthwyo Patrick Vieira.

Bydd hefyd yn ymgymryd â rôl Pennaeth Datblygu Como yn barhaol.