Mae Steve Cooper, cyn-reolwr Abertawe, wedi’i ddiswyddo gan Nottingham Forest.

Pan gafodd ei benodi ddwy flynedd yn ôl, roedden nhw yng ngwaelodion y Bencampwriaeth, a’i dasg fawr oedd eu hachub nhw.

Ond ar ôl rhediad anhygoel, fe lwyddodd i sicrhau dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair ac mae’r cefnogwyr wedi bod yn canu ei glodydd am wneud hynny.

Ond maen nhw wedi ei chael hi’n anodd ers iddyn nhw ennill dyrchafiad, ac maen nhw’n ail ar bymtheg, un safle uwchlaw safleoedd y gwymp.

Mewn datganiad, mae’r clwb wedi diolch iddo am ei “gyfraniad gwych” a’r “eiliadau eiconig” mae e wedi llywyddu drostyn nhw.

Mae disgwyl i Nuno Espirito Santo ei olynu.